Llyfrgell Tref Aberystwyth
Lleolir Llyfrgell Tref Aberystwyth ar Faes y Frenhines ar stryd Morfa Mawr (Queen St.) yn ardal Fictorianaidd y dref gyferbyn â Stryd Portland. Ni ddylid drysu gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd hefyd yn Aberystwyth.
Math | llyfrgell gyhoeddus |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 8.3 metr |
Cyfesurynnau | 52.417321°N 4.081689°W |
Cod post | SY23 2EB |
Rheolir gan | Cyngor Sir Ceredigion |
Mae'r llyfrgell bellach wedi ei lleoli yn hen pencadlys Cyngor Tref Aberystwyth ond roedd hi cyn hynny ar Stryd y Gorfforaeth (Corporation St) rhyw 400 metr i'r de orllewin. Mae adeilad y llyfrgell yn rhan o Ganolfan Alun R. Edwards. Mae Archifdy Ceredigion hefyd yn rhan o Ganolfan Alun R. Edwards bellach.
Hanes
golyguAgorwyd y llyfrgell gyhoeddus gyntaf yn Aberystwyth yn in Compton House, Pier Street ar 13 Hydref 1874. Yn 1882 symudwyd y llyfrgell i'r Assembly Rooms ar Faes Lowri, a roddwyd i'r cyngor ar lês am 21 mlynedd. Daeth y lês i ben yn 1903 a dychwelodd y llyfrgell i Heol y Wig, y tro yma i'r hen Lyfrgell Banc ar y gornel â Stryd y Porth Bach (Eastgate Street) er mai dim ond am gyfnod y bu yma.[1]
Adeiladwyd llyfrgell Carnegie yn 1905 gyda grant o £3,000. Lleolwyd hwn yn Stryd y Gorfforaeth ac fe'i dyluniwyd gan y pensaer Walter Payton o Birmingham. Roedd yn un o'r 48 a ymgeisiodd yn y gystadleuaeth i gynllunio'r adeilad. Agorwyd hi yn swyddogol ar 20 Ebrill 1906 gan Mary, gwraig Matthew Vaughan-Davies, yr Aelod Seneddol lleol.
Symudodd llyfrgell y dref i safle Cyngor y Dref ar Morfa Mawr yn 2012. Gelwir yr adeilad yn Ganolfan Alun R. Edwards ar ôl llyfrgellydd cyntaf yr hen Gyngor Sir Ceredigion. Symudodd swyddfeydd y Cyngor (oedd yn cynnwys gwasanaeth talu trethi) i adeliad pwrpasol newydd ar Boulevard de Saint-Brieuc in 2009 rhydd rhwng tref Aberystwyth a stâd newydd Parc y Llyn i'r dwyrain. Mae swyddfa Cyngor Tref Aberystwyth (cyngor cymuned) oedd yn rhan o hen adeilad y Cyngor, bellach ar Stryd y Popty.
Gwasanaethau
golyguMae'r llyfrgell yn cynnwys amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys: Llyfrau, DVDs, Llyfrau Llafar, Cryno Ddisgiau, Cyfrifiaduron a WiFi am Ddim, Gwasanaeth Llungopïo, Argraffu a Sganio, Ymchwil, Hanes Lleol, Papurau a Chylchgronau.
Mae'r llyfrgell ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 9.30am hyd nes 5.00pm neu 6.00pm ar wahanol ddyddiau.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Library Service History". Ceredigion County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-02. Cyrchwyd 19 April 2013.