Archifdy Sir Benfro
Mae Archifdy Sir Benfro, neu Archifau Sir Benfro, yn archifdy sirol ac yn ystorfa archifau a leolir yn nhref Hwlffordd yn ne-orllewin Cymru .
Math | archif rhanbarthol, archifdy sir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.8027°N 4.9704°W |
Rheolir gan | Cyngor Sir Benfro |
Er bod yr Uwchgapten Francis Jones wedi cychwyn arolygon rhagarweiniol o gofnodion sir Benfro mor bell yn ôl â’r 1930au, dim ond ym 1963 y penodwyd yr archifydd sirol cyuntaf yn Hwlffordd. Sefydlwyd y swyddfa gyntaf yn y dref ym 1967, o fewn hen garchar y sir fel cartref i archifau'r Cyngor sir. Mae'r archifdy hefyd yn gartref i archifau esgobaethol ar gyfer rhan o esgobaeth Tyddewi . [1]
Heblaw am gadw cofnodion awdurdod lleol a sesiynau chwarter, ynghyd â llawer o gofrestrau plwyfol sir Benfro, y mae daliadau arwyddocaol eraill yn cynnwys papurau teulu ac ystad yn ymwneud â John Mirehouse o Angle, Caeriw o Lys Caeriw a Lort-Phillips o Lawrenni.[2]
Symudodd y swyddfa i adeilad a ddyluniwyd yn bwrpasol ym mis Mawrth 2013. Mae hwn ar safle hen Ysgol Iau Pendergast, gyda'r llyfrgell astudiaethau lleol hefyd yn trosglwyddo i'r lleoliad newydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Janet Foster & Julia Sheppard, British Archives, 3rd edition, 1995, ISBN 0-333-53255-4
- ↑ Foster, Janet (1995). British archives : a guide to archive resources in the United Kingdom. Julia Sheppard (arg. 3rd ed). Basingstoke, England: Macmillan. ISBN 0-333-53255-4. OCLC 33356541.CS1 maint: extra text (link)