Ardal Hanesyddol Bythynnod Coulsontown
Mae Ardal Hanesyddol Bythynnod Coulsontown (Saesneg:Coulsontown Cottages Historic District) yn ardal hanesyddol cenedlaethol yn Coulsontown yn Peach Bottom Township yn York County, Pennsylvania, Unol Daleithiau America, tua tri chwarer milltir i'r dwyrain o Delta. Mae'r ardal yn cynnwys pedwar adeilad. Maent yn fythynnod carreg a adeiladwyd rhwng 1845 a 1865 gan chwarelwyr o Gymru ac yn anneddau deulawr, 2/3 bae o led ac 1 bae o hyd, gyda llechi'n gorchuddio'r toeau talcen a simneiau ar y ddau ben. Mae dwy ystafell i lawr y grisiau a dwy ystafell i fyny'r grisiau.[1]
Math | dosbarth hanesyddol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pennsylvania |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 39.7247°N 76.3078°W |
Statws treftadaeth | lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA |
Manylion | |
Ychwanegywd at y Gofrestr Genedlaethol o Leoedd Hanesyddol ym 1985.[2]
Yn 2006 fe brynwyd dau ohonynt gan yr Old Line Museum ac mae'nt yn cael eu hadfer i'w cyflwr gwreiddiol ac ar agor i'r cyhoedd.[3]
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Delta Welsh Heritage Archifwyd 2014-09-13 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ""National Historic Landmarks & National Register of Historic Places in Pennsylvania"". CRGIS: Cultural Resources Geographic Information System. Archifwyd o'r gwreiddiol (Searchable database) ar 2007-07-21. Cyrchwyd 2014-01-03. Note: This includes Thomas L. Schaefer and Jay R. Barshinger (June 1984). "National Register of Historic Places Inventory Nomination Form: Coulsontown Cottages Historic District" (PDF). Cyrchwyd 2011-12-21.[dolen farw]
- ↑ "National Register of Historic Places. National Park Service". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-04. Cyrchwyd 2014-01-03.
- ↑ Quarrymen's Cottages Archifwyd 2014-09-13 yn y Peiriant Wayback ar wefan Delta Welsh Heritage