Ardal Lywodraethol Ma'an

Gofernad Ma'an, Iorddonen

Mae Ardal Lywodraethol Ma'an (Arabeg محافظة معان; trawsgrifiad: Muḥāfaẓat Ma'ān) yn un o ddeuddeg ardal lywodraethol ("Gofernad") yng Nghwlad Iorddonen. Prif dref a thref gweinyddiaeth yr ardal yw Ma'an. Yn wahanol i system awdurod sirol yng Nghymru, caiff pennaeth y Gofernad ei b/phenodi gan Lywodraeth y wlad. Yn yr achos hyn, mae'r grym penodi yn nwylo Abdullah II, brenin Iorddonen.

Ardal Lywodraethol Ma'an
MathArdaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
PrifddinasMa'an Edit this on Wikidata
Poblogaeth175,200 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Arwynebedd33,832.3 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArdal Lywodraethol Amman Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.195°N 35.73417°E Edit this on Wikidata
JO-MN Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad a daearyddiaeth golygu

Mae Gofernad Ma'an wedi'i leoli yn ne ddwyrain y wlad. Ffinir hi i'r gogledd gan Ardal Lywodraethol Amman, ac i'r gorllewin gan gofernadau Ardal Lywodraethol al-Karak, Tafila ac Aqaba, ac i'r dwyrain a'r de gan Deyrnas Sawdi Arabia.

Mae'r dalaith yn cael ei gorchuddio gan anialwch yn bennaf, yn rhan orllewinol y dalaith mae mynyddoedd Ash-Sharat gyda nifer o fynyddoedd sydd â chopaon dros 1500m.

Mae'r gofernad yn cwmpasu ardal o 32,832 km²[1] (sef ychydig dros 50% yn fwy na thiriogaeth Cymru) ac felly mae'n cwmpasu mwy na thraean o'r diriogaeth genedlaethol Gwlad Iorddonen.

Hanes golygu

  Mae Gofernad Ma'an yn gyfoethog o ran hanes, fel y gwelir yn y safleoedd Oes y Cerrig Basta a Ba'ja. Bu unwaith yn rhan o Deyrnas Edom, roedd Petra, prifddinas teyrnas y Nabataeaid yn ddiweddarach, yn pencadlys i'r rhanbarth. Yn ystod ei hanes, bu'r rhanbarth o dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, concwerwyd hi gan y chwyldro y crefydd Islamaidd a sgubodd allan o benrhyn Arabia yn y 7g gan droi'r ardal yn bobl y ffydd Moslemaidd. Bu hefyd yn faes y gâd yn ystod y Croesgadau wrth i luoedd Cristnogol geisio adfeddianu Jeriwsalem i'w fydd hwy a ffyddlondeb i'r Pâd. Mae castell Montreal yn hanesyddol dyst i bresenoldeb y Croesgadwyr.

Bu'r ardal am gyfnod yn rhan o sir Jeriwsalem fel rhan o lywodraeth leol Ymerodraeth yr Otomaniaid. Yn 1895 cafwyd ad-drefnu pellach ac er y cynnigiwyd Ma'an fel prif dref y Sanjak (sir) penderfynwyd ar Karak a daeth Ma'an yn rhan o Sanjak Karak (gelwir 'sanjak' hefyd yn "Mutasarrifate").[2] Gyda chwymp yr Ymerodraeth yn 1918 daeth y diriogaeth am gyfnod yn rhan o deyrnad byr-hoedlog yr Hijaz. Ond gyda ymgorffori'r rhan fwyaf o'r deyrnas honno i deyrnas newydd Sawdi Arabia daeth tiriogaeth Gofernad Ma'an (er nad oedd yr ardal Lywodraethol wedi ei sefydlu ar y pryd) yn rhan o Deyrnas newydd Hashimitaidd Gwlad Iorddonen yn 1925 o dan Abdullah I.[3]

Sefydlwyd Goferna Ma'an yn 1965. Ym 1994, cafodd ei ffurf bresennol pan ymranwyd hi oddi ar Gofernad Aqaba.[4]

Poblogaeth golygu

  Gyda 124,100 o drigolion (2013), Ma'an yw'r dalaith gyda'r boblogaeth leiaf ond un yn y wlad a'r dwysedd poblogaeth isaf. Cyfanswm y boblogaeth drefol oedd 68,100 o bobl gyda 56,000 o drigolion mewn ardaloedd gwledig. Y gyfradd ddiweithdra yn 2013 oedd 15%.[1]

Demograffeg golygu

Poblogeth y dosbarthiadau ("liwā") yn ôl y cyfrifiad:[5]

Dosbarth ("liwā") Poblogaeth
(Cyfrifiad 1994)
Poblogaeth
(Cyfrifiad 2004)
Poblogaeth
(Cyfrifiad 2015)
Gofernad Ma'an 79,670 94,253 144,082
Al-Betrā' (Petra) 22,459 23,840 19,828
Al-Ḥuseīniyah 6,472 8,310 17,323
Ash-Shūbak 9,881 11,087 19,279
Qaṣabah Ma'ān 40,858 51,016 87,652

Haenau Llywodraethol Is golygu

  Rhennir Gofernad Ma'an yn bedair ardal (liwā): Qasaba Ma'an (yn seiliedig ar Ma'an), Petra (yn seiliedig ar Wadi Musa), ash-Shaubak (yn seiliedig ar ash-Shaubak), ac al-Husainiyya (sy'n byw yn al-Husainiyya). Ardal Qasaba Ma'an yw'r unig un o'r ardaloedd hyn sydd wedi'u hisrannu ymhellach i'r pum isranbarth (qadā) Ma'an, Īl, al-Jafr, al-Muraigha ac Adhruh[1]

Trafnidiaeth golygu

Y prif ffyrdd sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de drwy'r ardal yw'r R15 a'r R35 tua'r gorllewin a'r A5 i'r dwyrain. Ar ben deheuol yr A5 yn al-Mudawwara mae croesfan ffin â Sawdi Arabia.

Rhed rheilffordd bwysig Aqaba drwy'r diriogaeth hefyd.

Golygfeydd a lleoedd arbennig golygu

Dinas fwyaf y llywodraethwr yw'r brifddinas Ma'an, cartref Prifysgol Al-Hussein Bin Talal a chanolfan parth economaidd arbennig.[3]

Mae twristiaeth yn bwysig i'r ardal ac ymysg y prif atyniadau mae ardal Wadi Musa gyda dinas graig Petra, y Siq el-Barid a'r Jabal Harun. Mae atyniadau eraill yn Ardal Lywodraethol Ma'an yn cynnwys cestyll Montreal, Qasr al-'Unaiza a Qasr Ma'an.[6] Lle pwysig yn hanes Islam hefyd yw Jabal at-Tahkim.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 http://www.dos.gov.jo/dos_home_a/main/yearbook_2013.pdf
  2. https://en.wikipedia.org/wiki/Karak_sanjak
  3. 3.0 3.1 http://moi.gov.jo/Pages/viewpage.aspx?pageID=427[dolen marw]
  4. http://moi.gov.jo/Pages/viewpage.aspx?pageID=427&AspxAutoDetectCookieSupport=1[dolen marw]
  5. "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 December 2016.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-09. Cyrchwyd 2019-04-30.
  7. http://moi.gov.jo/Pages/viewpage.aspx?pageID=421[dolen marw]

Dolenni allanol golygu