Ardal Lywodraethol Aqaba

gofenad yn Iorddonen

Ardal Lywodraethol Aqaba (Arabeg: العقبة al-ʻAqabah) yw un ardaloedd lywodraethol (governate) yr Iorddonen. Mae'r gofernad wedi'i leoli i'r de o Ardal Lywodraethol Amman, a'r brifddinas, Amman. Prif dref y gofernad yw dinas Aqaba. Dyma'r pedwerydd gofernad fwyaf yr Iorddonen yn ôl ardal ond mae'n 10fed yn ôl poblogaeth. Math ar lywodraeth leol yw Gofernad ond yn wahanol i gyngor sir, mae llywodraeth y gofernad wedi ei benodi gan arweinydd y wlad, yn yr achos yma, yn waelodol Abdullah II, brenin Iorddonen.

Ardal Lywodraethol Aqaba
MathArdaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
PrifddinasAqaba Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Arwynebedd6,900 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTabuk Province Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau29.52361°N 35.00722°E Edit this on Wikidata
JO-AQ Edit this on Wikidata
Map

Mae Aqaba, y porthladd yn y Môr Coch ar ben Gwlff Aqaba ac mae'n gorwedd ysgwydd yn ysgwydd gyda thref Eilat sydd yn Israel. Fel unig borthladd y wlad, mae'n chwarae rhan bwysig ym mywyd economaidd yr Iorddonen. Mae dau o dri chyrchfan twristiaeth uchaf Jordan yn gorwedd yn Ardal Lywodraethol Aqaba; Wadi Rum, adfeilion Petra a dinas hanesyddol a phorthladd Aqaba. Y porthladd yw canolbwynt mewnforio / allforio pwysicaf yr Iorddonen. Mae'r porthladd diwydiannol tua 15 km i'r de o'r traethau a chanol dinas Aqaba.

Daearyddiaeth golygu

Mae Gofernad Aqaba yn gorwedd ym mhen de-orllewinol Jordan, mae'n ffinio ag Ardal Lywodraethol Ma'an sy'n gorwedd i'r dwyrain. I'r gogledd ceir Ardal Lywodraethol Tafilah, teyrnas Sawdi Arabia o'r de, ac Israel o'r gorllewin, a Gwlff Aqaba o'r de-orllewin. Mae dau bwynt croesi rhyngwladol yn Aqaba Governorate, Croesfan Border Durra a chroesfa Wadi Dubai.

Roedd ffin Gwlwad Iorddonen-Sawdi Arabi yn wreiddiol yn rhedeg ychydig o gilometrau i'r de o Aqaba. Ym 1965, cyfnewidiodd y diweddar Brenin Hussein dir anial yn nwyrain Gwlad Iorddonen am 12 km (7 milltir) o arfordir ar y Môr Coch gan ymestyn arfordir prin Iorddonen.

Lleolir Wadi Rum, sef wadi fwyaf Iorddonen o fewn ffiniau'r Gofernad. Mae'n atyniad dwristiaeth boblogaidd a lleoliad ar gyfer sawl ffilm enwog megis Lawrence of Arabia (1962), Rogue One: A Star Wars Story, (2016); Star Wars: The Rise of Skywalker (2019) a The Martian (2015).

Hanes golygu

Lawrence o Arabia golygu

Bu pobl yn byw yn ninas Aqaba ers 4000 CC, gan gyrraedd ei anterth yn ystod oes y Rhufeiniaid, pan adeiladodd y Rhufeiniaid y llwybr Via Traiana Nova sy'n dod i ben yn Aqaba. Roedd Aqaba (a adwaenir fel "Ayla" bryd hynny) hefyd yn garsiwn 10fed Lleng Rufeinig y Culfor (Legio X Fretensis).

Roedd Aqaba hefyd yn safle rhai o anturiaethau enwog Sinbad y Morwr yn anturiaethau enwog Nosweithiau Arabia (Arabian Nights) yn Mil ac un o nosweithiau.

Yn hanes modern, mae dinas Aqaba yn adnabyddus am Lawrence o Arabia a Brwydr Aqaba, un o frwydrau allweddol y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol a daeth i amlygrwydd poblogaidd yn y ffilm Laurence of Arabia pan ddarluniwyd yr ymosodiad ar Rheilffordd Hejaz a'r cyrch ar dref Aqaba.

Y trysor archeolegol mwyaf yn y rhanbarth yw Petra. Mae Petra yn gorwedd ar lethr dwyreiniol Mynydd Hor yn Wādi ʻAraba, rhan o Rift Valley sy'n rhedeg o Wlff Aqaba ar y Môr Coch i'r Môr Marw.

Daethpwyd o hyd i'r sgript hynaf a ysgrifennwyd yn yr wyddor Arabeg yn Wadi Rum yn Gofernad Aqaba, ac mae'n dyddio'n ôl i'r 4g.

Economi golygu

Mae poblogaeth y Gofernad yn dibynnu'n drwm ar dwristiaeth fel prif ffynhonnell incwm. Porthladd Aqaba yw'r unig borthladd ar gyfer yr Iorddonen. Daw bron pob un o fasnach dramor yr Iorddonen drwy Aqaba. Yn ystod Rhyfel Irac-Iran, defnyddiodd Irac borthladd Aqaba ar gyfer ei masnach dramor.

Adrannau gweinyddol golygu

 
Nahias Aqaba

Rhennir Aqaba Governorate yn dair adran yn ôl erthygl 15 o System Is-adrannau Gweinyddol y flwyddyn 2000 gan y Weinyddiaeth Gartref:

Dosbarth Enw Arabeg Is-ddosbarth Canolfan Weindyddol
1 Dosbarth Priffinas (Al-Qasabah) لواء قصبة العقبة yn cynnwys dinas Aqaba a thair pentref ger llaw Aqaba
2 Dosbarth Wadi Araba قضاء وادي عربة yn cynnwys naw pentref Al-Reeshah
3 Dosbarth Al-Quwairah لواء القويرة yn cynnwys 15 dosbarth Al-Quwairah

Demograffeg golygu

Poblogaeth y dosbarthiadau yn ôl y cyfrifiad:[1]

Dosbarth Population
(Census 1994)
Population
(Census 2004)
Population
(Census 2015)
Aqaba Governorate 79,839 102,097 188,160
Al-Qūaīrah 12,736 17,132 29,142
Qaṣabah al-'Aqabah 67,103 84,965 159,018

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 December 2016.