Ardal gynhenid, brodorol a chymunedol a warchodir
Mae ardaloedd brodorol, cymunedol sy'n cael eu gwarchod (Saesneg: Indigenous and community conserved areas; ICCA) yn fannau a reolir gan bobloedd brodorol neu gymunedau lleol. Mewn ICCAs, diogelir yr adnoddau naturiol a gwerthoedd diwylliannol yn wyneb bygythiadau gan wladwriaeth fwy a chryfach. Mae rhai ICCAs wedi'u lleoli mewn ecosystemau anghysbell sydd heb lawer o gyffyrddiad a'r tu allan. Gall ICCAs gyd-fynd â diffiniad yr IUCN o “ardal warchodedig”, neu beidio, ond, pan fyddant yn gwneud hynny, gallant ddod o dan unrhyw gategorïau ardal warchodedig yr IUCN.
Math | tiroedd ble mae brodorion gwreiddiol gwlad yn byw |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir y tair nodwedd ganlynol i ddiffinio ICCA:[1]
- Mae perthynas gref yn bodoli rhwng pobl frodorol neu gymuned leol a safle penodol (tiriogaeth, ecosystem, cynefin). Mae'r berthynas hon yn aml wedi'i gwreiddio yn ymdeimlad y bobl neu'r gymuned o hunaniaeth a/neu ddibyniaeth ar fywoliaeth a lles.
- Y bobl frodorol neu’r gymuned leol yw’r prif chwaraewr mewn gwneud penderfyniadau a gweithredu ynghylch rheoli’r safle, sy’n awgrymu bod gan sefydliad lleol y gallu i ddatblygu a gorfodi penderfyniadau (gall rhanddeiliaid eraill gydweithio fel partneriaid, yn enwedig pan fo’r tir yn eiddo i'r wladwriaeth, ond mae penderfyniadau de facto ac ymdrechion rheoli yn cael eu cymryd yn bennaf gan y bobl neu'r gymuned dan sylw).
- Mae penderfyniadau ac ymdrechion rheoli'r bobl neu'r gymuned yn arwain at warchod cynefinoedd, rhywogaethau, amrywiaeth enetig, swyddogaethau / buddion ecolegol, a gwerthoedd diwylliannol cysylltiedig.
Diffiniad
golyguDiffiniodd Cyngres Parciau’r Byd IUCN 2003 ICCAs fel:
ecosystemau naturiol a/neu wedi’u haddasu sy’n cynnwys gwerthoedd bioamrywiaeth sylweddol a gwasanaethau ecolegol, a warchodir yn wirfoddol gan gymunedau brodorol a lleol (arhosol a symudol), drwy gyfreithiau arferol neu ddulliau effeithiol eraill.
Mae’r diffiniad hwn yn cael ei gydnabod gan Ganolfan Monitro Cadwraeth y Byd; Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP-WCMC) ac a ymhelaethir arno yn Llawlyfr Cofrestrfa ICCA UNEP-WCMC fel math o Ardal Warchodedig (gan gynnwys Ardaloedd Morol Gwarchodedig ) lle mae pobl frodorol wedi'i sefydlu, a/neu yn berchnogion ac yn rheolwyr.
Deddfwriaeth
golyguDywedir bod ICCAs yn cwmpasu cymaint o dir ag ardaloedd gwarchodedig y llywodraeth (yn ogystal â rhai sydd wedi bodoli am lawer hirach), ac eto nid yw degau o filoedd o safleoedd wedi'u cydnabod eto gan lywodraethau ac maent yn dal i gael eu hesgeuluso o fewn systemau cadwraeth swyddogol a pholisïau a deddfwriaeth y llywodraeth. Mae diffyg cefnogaeth wleidyddol a chyfreithiol yn aml yn rhwystro ymdrechion cymunedol i gynnal ICCAs trwy ddulliau traddodiadol.[2]
Mae “cyfreithlondeb” a chydnabyddiaeth yr ICCAau, a'r gefnogaeth eang gan gymdeithas yn gyffredinol wedi’u gwreiddio mewn confensiynau rhyngwladol a chytundebau. Dechreuodd y broses hon yn gymharol ddiweddar. Ym 5ed Gyngres Parciau’r Byd (Durban, 2003) pensaerniodd gweithwyr cadwraeth proffesiynol am y tro cyntaf y cysyniad o “lywodraethu ardaloedd gwarchodedig” ac eglurwyd y dylai pobl frodorol a chymunedau lleol gael eu cydnabod yn llawn yn eu rôl fel llywodraethwr y cymunedau hyn. Yn yr un Gyngres gwnaed datblygiad arloesol gan bobloedd brodorol, pan dderbyniwyd y byddai parchu eu hawliau mewn gwirionedd yn hyrwyddo, yn hytrach na lleihau cadwraeth effeithiol.
Yn fuan ar ôl Cyngres Durban, cymeradwyodd y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, yn ei gyfarfod COP 7 yn Kuala Lumpur (2004), Raglen Waith CBD ar Ardaloedd Gwarchodedig (PoWPA). Mae PoWPA yn cefnogi “dull newydd” tuag at ardaloedd gwarchodedig, gan alw am sylw i fathau gwahanol ac ansawdd llywodraethu, tegwch mewn cadwraeth, a hawliau pobl frodorol.
Mae'r IUCN, drwy nifer o'i benderfyniadau, yn cydnabod a chefnogi ICCAs[3] yng Nghyngres Cadwraeth y Byd, Barcelona yn 2008.[4] Mae WCC4 yn Barcelona hefyd wedi cymeradwyo canllawiau technegol newydd gan yr IUCN ar gyfer ardaloedd gwarchodedig, gan nodi’n benodol y gall gwahanol fathau o lywodraethu – gan gynnwys ICCAs – gyfrannu’n llawn at ddatblygu systemau ardaloedd gwarchod cenedlaethol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kothari, A. 'Community Conserved Areas', Protected Areas Programme: Parks Magazine Vol. 16, No. 1 (Cambridge, IUCN, 2006)
- ↑ 'Territories and Areas Conserved by Indigenous Peoples and Local Communities: How Far Do National Laws and Policies Recognize Them?' A Rapid Assessment A Revised Preliminary Report on behalf of IUCN et al. (October 2010)
- ↑ "IUCN Policy Resolutions: 4.049 Supporting Indigenous Conservation Territories and other Indigenous Peoples' and Community Conserved Areas" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-16. Cyrchwyd 2011-05-15.
- ↑ "IUCN Policy Resolutions: 4.050 Recognition of Indigenous Conservation Territories" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-16. Cyrchwyd 2011-05-15.
Darllen pellach
golygu- Amrywiaeth bio-ddiwylliannol a warchodir gan bobloedd brodorol a chymunedau lleol: enghreifftiau a dadansoddiad Archifwyd 2022-01-22 yn y Peiriant Wayback, dogfen ategol i nodyn briffio IUCN/CEESP Rhif 10, 2010 a chyhoeddiad allweddol ar ICCAs