Amffitheatr Rufeinig ydy Pula Arena, wedi'i lleoli yng nghanol Pula, Croatia. Dyma'r unig amffitheatr sydd wedi goroesi'r blynyddoedd gyda phedwar tŵr a llawer o nodweddion Rhufeinig mewn cyflwr mor dda. Fe'i codwyd yn 27 CC - 68 ÔC[1] ac mae ymhlith y 7 arena fwyaf sydd wedi goroesi drwy'r byd.[1] Mae'n esiampl brin ymhlith y 200 amffitheatr a ellir eu gweld heddiw, a dyma'r gorau yng Nghroatia.

Pula Arena
Yr Arena yn Pula, Croatia gyda'i gylch o waliau hynafol.
LleoliadPula, Croatia
MathAmffitheatr Rhufeinig
Hanes
Sefydlwyd27 CC - 68 ÔC
CyfnodauYr Ymerodraeth Rufeinig

Ceir llun o'r Arena ar gefn papur 10 Kuna Croatiaidd a welodd olau dydd yn 1993, 1995, 2001 a 2004.[2] Mae'r Arena yn parhau i gael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer cyngherddau, gyda llwyfan a chadeiriau yn cael eu gosod tu fewn iddo.

Adeiladu golygu

Calchfaen yw'r muriau, ac mae tri llawr i'r rhannau hynny sy'n wynebu'r môr a dau ar y gweddill. Codwyd yr Arena ar lethr ac mae'r waliau'n 29.4 metr ar eu huchaf. Mae gan y ddau lawr cyntaf 72 bwa yr un, gyda 64 agoriad petryal ar y llawr uchaf.

 
Bwa o wal wedi'i hadfer.

Mae echelin yr amffitheatr siâp ofal yma yn 132.45 and 105.10 m (434.5 and 344.8 ft) o ran hyd, a'r waliau'n 32.45 m (106.5 ft) mewn uchder. Yn ei hamser gallai gynnwys 2,000 o wylwyr yn y cavea, oedd a 40 o risiau wedi'u rhannu'n ddau meniani. Mae'r seddau wedi'u lleoli'n uniongyrchol ar y llawr serth. Mae'r maes lle roedd y chwarae'n digwydd (y gwir arena) yn mesur 67.95 by 41.65 m (222.9 by 136.6 ft). Yn gwahanu'r maes hwn a'r gynulleidfa roedd gatiau haearn cryf.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Kristina Džin: 2009, Tud 7
  2. Banc Cenedlaethol Croatia. Features of Kuna Banknotes Archifwyd 2009-05-06 yn y Peiriant Wayback.: 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback. (1993), 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback. (1995), 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback. (2001) & 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback. (2004). – Adalwyd 30 Mawrth 2009.