Mae arfbais Irac, sy'n dyddio yn ôl i gyfnod Saladin, yn dangos aderyn ysglyfaethus gyda chorff lliw aur ac adenydd du. Mae tarian ar ei flaen sy'n dangos baner Irac, ac oddi tanddo mae'n dweud جمهورية العراق, sef yr Arabeg am "Weriniaeth Irac". Mae'n debyg iawn i arfbais yr Aifft.

Arfbais Irac

Hyd at i Irac ddod yn weriniaeth yn 1959 roedd arfbais teyrnas Irac yn dilyn dyluniad tebyg i arfbais Gwlad Iorddonen gyfredol. Roedd hyn yn cynnwys rhoi'r brif arfbais megis ar lwyfan wedi ei fframio gan leni naill ochr. Gan fod y ddwy deyrnas yn cael eu rheoli gan ganghenau o'r brenhinllin Hashimitaidd dydy hyn ddim yn syndod.

cyn-arfbais Teyrnas Hashimitaidd Irac hyd nes 1959
Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.