Argaeau Dyffryn Elan

Cadwyn o gronfeydd a wnaed gan ddyn yw Argaeau Dyffryn Elan, i gyflenwi dŵr i Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Codwyd waliau carreg yr argaeon ar afonydd Elan a Chlaerwen. Gwnaed y gwaith gan Birmingham Corporation Water Department er mwyn cyflenwi dŵr glân i ddinasyddion yr ardaloedd hynny. Mae Argaeau Dyffryn Elan yn gadwyn o 5 llyn: Claerwen, Craig-goch, Pen-y-garreg, Garreg-ddu, a Caban-coch.[1]

Argaeau Dyffryn Elan
Mathcronfa ddŵr, grŵp o lynnoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolCwm Elan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2722°N 3.6889°W Edit this on Wikidata
Map

Llifa'r dŵr drwy bibell, drwy rym disgyrchiant i Argae Frankley ym Mirmingham dros Ddyrfrbont Elan, a hynny heb yr angen am bwmp na pheiriant o unrhyw fath. Mae'r gwahaniaeth uchder rhwng dau ben y beipen yn 52m, a'r beipen ei hun yn mesur 73 milltir. Mae graddiant y disgyniad, felly'n 1:2300 gyda chyflymder y dŵr yn llai na 2 miles per hour (3.2 km/h), ac yn cymryd rhwng dau ddiwrnod a hanner a thridiau i gyrraedd Birmingham.[2] Mae'r draphont, a godwyd rhwng 1896 a 1906, yn croesi sawl dyffryn, ac yn cynnwys sawl twnnel bric, pibellau ac adeiladau.[3]

Yr argaeau golygu

Yn Gymraeg, gellir gelwir y dŵr o fewn llyn a wnaed gan bobl yn 'gronfa' a'r wal sy'n ei ddal yn ôl yn argae. Ceir 4 prif argae a 4 is-argae. Codwyd y 4 prif argae rhwng 1893 ac 1904 yn Nyffryn Elan a rhwng 1946 ac 1952 yng Nghlaerwen; mae eu cynhwyedd potensial yn 100,000 megalitr. Y 4 prif gronfa yw:[4]

  • Caban-coch (a Garreg-ddu) – 35,530 megalitr o ddŵr
  • Pen-y-garreg – 6,055 megalitr
  • Craig Goch – 9,220 megalitr
  • Claerwen – 48,694 megalitr.

Ceir hefyd sawl is-gronfa:

  • Cronfa Dôl-y-mynach – un o'r dair ar Afon Claerwen.
  • Cronfa Nant-y-Gro – cronfa fechan a adeiladwyd yn gynnar yn y prosiect; fe'i defnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd gan Syr Barnes Wallis a'i brofion ar gyfer y bouncing bom.
  • Cronfa'r Garreg-ddu – er ei bod yn edrych fel traphont, argae tanddwr ydyw mewn gwirionedd. Ei phwrpas yw sicrhau lefel uchel o ddŵr yng Nghronfa'r Garreg-ddu er mwyn i ddŵr lifo Tŵr y Foel ac oddi yno i Gronfa Frankley, Birmingham.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Powys Digital History Project: Elan Valley Reservoirs". Cyrchwyd 9 Mai 2012.
  2. "Powys Digital History Project: Elan Valley Dams". Cyrchwyd 9 Mai 2012.
  3. "Valve house hidden in the woods". www.geograph.org.uk. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2012.
  4. Elan dams: Specifications Archifwyd 2013-02-20 yn y Peiriant Wayback. at Elan Valley Trust official website. Accessed 27 Tachwedd 2013