Arglwyddes Jean Cochrane

Uchelwraig o Bendefigaeth yr Alban a fagwyd yng Nghymru oedd y Fonesig Jean Alice Elaine Cochrane (Hervey yn ddiweddarach, yna Macdonald; 27 Tachwedd 18875 Ionawr 1955). Roedd hi'n ferch i Winifred, Iarlles Dundonald, a'i gŵr Douglas Cochrane, 12fed Iarll Dundonald.[1][2]

Arglwyddes Jean Cochrane
Ganwyd27 November 1887
50 Eaton Place, Llundain
Bu farw5 Ionawr 1955(1955-01-05) (67 oed)
Dundonald, De Swydd Ayr

Roedd Cochrane yn ffigwr enwog yn ei chyfnod. Yn ei hieuenctid, bu'n modelu ar gyfer cyhoeddiadau amlwg ac ymddangosodd yn The Bystander,[3] Tatler,[4][5] Country Life,[6] a The Sketch.[7]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1916, daeth yn nyrs i drin anafiadau rhyfel yn ysbyty'r Groes Goch yn Sgwâr Portman, Llundain.[8][9]

Yn 1917 bu'n rhan o'r gwasanaethau diplomyddol ac yn gwasanaethu yn y Swyddfa Dramor yn Whitehall, Llundain.[10]

Bu'n helpu i gefnogi'r Waifs and Strays Society trwy gynnal digwyddiadau i godi arian at yr achos. Mae'r gymdeithas (The Children's Society bellach) yn ceisio gwella bywydau plant a phobl ifanc wrth ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer yn uniongyrchol a chreu newid cadarnhaol mewn agweddau cymdeithasol i wella'r sefyllfa sy'n wynebu pob plentyn a pherson ifanc.[11][12]

Ar 14 Gorffennaf 1937 lansiodd long ryfel y Llynges Frenhinol HMS Enchantress (L56).[13]

Bywyd personol golygu

Y Fonesig Jean oedd pedwerydd plentyn Winifred a Douglas Cochrane, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i hieuenctid yng Nghastell Gwrych.[14][15]

Roedd hi'n hoff iawn o chwaraeon, golff yn enwedig.[16]

Ar 19 Hydref 1914 priododd yr Arglwydd Herbert Hervey a bu iddynt fab; Victor Hervey, 6ed Ardalydd Bryste, ei fam fedydd oedd y Frenhines Sbaenaidd Victoria Eugenie o Battenberg.[17]

Ym 1932, ar ôl iddi ddarganfod bod ei gŵr yn cael perthynas yn eu fflat yn Sgwâr Portman, gwnaeth gais am ysgariad ar sail godineb ac ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn, caniatawyd yr ysgariad heb i Herbert wrthwynebu. Dywedodd adran ysgariad y Portsmouth Evening News, "Cwynodd yr Arglwyddes Jean am gysylltiad ei gŵr â merched eraill yn fuan ar ôl iddynt briodi, a chododd gwahaniaethau".[18]

Ym mis Rhagfyr 1933, ailbriododd mewn swyddfa gofrestru yn Llundain â'r Capten Peter Macdonald.[19] Roedd Macdonald, a gafodd ei urddo'n farchog yn ddiweddarach, yn wleidydd Ceidwadol dros Ynys Wyth a bu Jean yn ei helpu yn ei waith.[20]

Bu farw yn 1955 yn 67 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Births" (yn en). Hampshire Advertiser: 2. 30 Tachwedd 1887.
  2. "Death of Lady Jean Macdonald" (yn en). Portsmouth Evening News: 16. 6 Ionawr 1955. https://imgur.com/a/86zQTy6.
  3. "The Bystander" (yn Saesneg). 20 Hydref 1909.
  4. The Tatler. 2 Awst 1916.
  5. - The Tatler - Wednesday 07 November 1906
  6. Country Life Magazine 12 April 1919
  7. "The Sketch". 6 Chwefror 1918.
  8. The Boston Post - 2 Medi 1917
  9. Daily Mirror - Thursday 19 Hydref 1916
  10. "Daily Mirror" (yn Saesneg). 8 Tachwedd 1917.
  11. https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002065/19040917/108/0008 - Denbighshire Free Press - Saturday 17 September 1904 [page 8]
  12. https://newspapers.library.wales/view/3835315/3835322 - The Welsh Coast Pioneer 22 August 1907 [Page 7]
  13. "HMS Bittern, sloop". www.naval-history.net. Cyrchwyd 2021-10-16.
  14. Dundee Evening Telegraph - Monday 06 February 1933 (Page 7)
  15. The Sketch - Wednesday 06 February 1918 (Cover page)
  16. "The Tatler" (yn Saesneg). 4 Tachwedd 1914. t. 17.
  17. Daily Mirror - Thursday 10 May 1917 [Page 10]
  18. Portsmouth Evening News - Friday 29 July 1932 - page 12
  19. Liverpool Echo - Thursday 14 December 1933 - Page 9
  20. "Captain Sir Peter Macdonald: speeches in 1955 (Hansard)". api.parliament.uk. Cyrchwyd 2021-10-17.