Pendefigaeth yr Alban
Pendefigaeth Lloegr |
Pendefigaeth yr Alban |
Pendefigaeth Iwerddon |
Pendefigaeth Prydain Fawr |
Pendefigaeth y Deyrnas Unedig |
Mae Pendefigaeth yr Alban yn rhan o Bendefigaeth Prydain, ar gyfer y Pendefigion a grewyd yn Nheyrnas yr Alban cyn 1707. Gyda Deddfau Uno 1707, cyfunwyd teyrnasoedd yr Alban a Lloegr i greu Teyrnas Prydain Fawr, a chrewyd Pendefigaeth newydd Prydain Fawr, a daeth Pendefigion newydd yn rhan o'r Bendefigaeth honno.
Wedi'r Uno, etholodd Pendefigion yr Alban 16 o'u plith i'w cynrychioli yn Nhŷ'r Arglwyddi. Rhoddodd Deddf Pendefigaethau 1963 yr hawl i bob Pendefig yr Alban eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, hawl a gollwyd ynghyd â'r pendefigaethau etifeddol gyda Deddf Tŷ'r Arglwyddi 1999. Yn wahanol i bendefigaethau eraill, gall pendefigaeth Albaneg ei gario 'mlaen drwy'r linell benywaidd, a phan dim ond merched sydd i'w cael, caiff y teitl ei etifeddu gan y ferch hynaf yn hytrach na mynd i'r oediad.
Rheng Pendefigaeth yr Alban yw Dug, Ardalydd, Iarll, Isiarll, ac Arglwydd y Senedd. Mae gan Bendefigion yr Alban yr hawl i eistedd yn Senedd yr Alban. Mae'r teitl Barwn yn is i lawr y rheng nac Arglwyddi'r Senedd, ond, er eu bod yn deitlau bonheddig, ni ystyrir hwy fel arfer yn deitlau pendefig.
Yn tabl canlynol o bendefigion yr Alban, rhestrir teitlau uwch neu chyfartal yn y Pendefigaethau eraill. Os deilir y Bendefig, bendefig ym Mhendefigaeth Lloegr, Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig, ac felly'n eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, rhestrir y teitl is hefyd. Dangosir deiliaid sawl Pendefigaeth Albaneg o dan y Bendefig uwch yn unig.
Dugiau ym Mhendefigaeth yr Alban
golyguTeitl | Creadigaeth | Teitlau eraill |
---|---|---|
Dug Rothesay | 1398 | Dug Cernyw ym Mhendefigaeth Lloegr |
Dug Hamilton | 1643 | Dug Brandon ym Mhendefigaeth Prydain Fawr |
Dug Buccleuch a Queensberry | 1663; 1684 | Iarll Doncaster ym Mhendefigaeth Lloegr |
Dug Lennox | 1581 | Dug Richmond ym Mhendefigaeth Lloegr; Dug Gordon ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig |
Dug Argyll | 1701 | Dug Argyll ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig |
Dug Atholl | 1703 | Arglwydd Percy ym Mhendefigaeth Prydain Fawr |
Dug Montrose | 1707 | Iarll Graham ym Mhendefigaeth Prydain Fawr |
Dug Roxburghe | 1707 | Iarll Innes ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig |
Ardalyddion ym Mhendefigaeth yr Alban
golyguTeitl | Creadigaeth | Teitlau eraill |
---|---|---|
Ardalydd o Huntly | 1599 | Arglwydd Meldrum o Morvern ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig |
Ardalydd o Queensberry | 1682 | |
Ardalydd o Tweeddale | 1694 | Arglwydd Tweeddale o Yester ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig |
Ardalydd o Lothian | 1701 | Arglwydd Ker o Kersehugh ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig |
Iarlls a Iarllesau ym Mhendefigaeth yr Alban
golyguIs-ieirll ym Mhendefigaeth yr Alban
golyguTeitl | Creadigaeth | Teitlau eraill |
---|---|---|
Isiarll (of) Falkland | 1620 | |
Isiarll (of) Stormont | 1621 | Iarll Mansfield ym Mhendefigaeth Prydain Fawr |
Isiarll Arbuthnott | 1641 | |
Isiarll Oxfuird | 1651 |