Castell Gwrych

castell rhestredig Gradd I yn Llanddulas a Rhyd-y-foel

Castell ffug ac ystâd ym Mwrdeisdref Sirol Conwy, ger Abergele yw Castell Gwrych ("Cymorth – Sain" ynganiad ), sydd wedi'i gofrestru fel adeilad cofrestredig Gradd I.

Castell Gwrych
Mathffoledd, plasty gwledig, castell, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1819 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwrych Castle Estate, Gwyndu Ucha Estate Edit this on Wikidata
LleoliadLlanddulas a Rhyd-y-foel Edit this on Wikidata
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr61.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.28354°N 3.609589°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethLloyd Hesketh Bamford-Hesketh, Urdd Sant Ioan, Douglas Cochrane, 12th Earl of Dundonald Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Hanes cynnar golygu

Fe'i codwyd gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh (1788-1861) i gofio am deulu'r 'Llwydiaid' ar ochr ei fam. Er mwyn ei godi dymchwelwyd plasdy o'r enw 'Y Fron’ a oedd ers 1810 wedi mynd a'i ben iddo. Erbyn i Lloyd briodi'r Arglwyddes Emily Esther Ann Lygon (sef merch Beauchamp) yn 1825 roedd y tŷ newydd wedi ei godi a'i orffen. Unodd nifer o gynllunwyr a phensaeri yn y gwaith o'i gynllunio, gan gynnwys Charles Augustus Busby a Thomas Rickman ac yn 1840s cododd Henry Kennedy adain newydd. Pan fu farw Lloyd, daeth Robert Bamford-Hesketh a'i wraig Ellen Jones-Bateman yn berchnogion.

 
Hen Wrych

Ar ei farwolaeth, etifedd Castell Gwrych a'r ystâd oedd mab Lloyd, sef Robert Bamford-Hesketh (1826-1894) a briododd Ellen Jones-Bateman yn 1851. Ychwanegodd at y tiroedd ac erbyn 1873 roedd gan yr ystad 3424 o erwau ynghyd â nifer o byllau glo yng ngogledd Cymru.

Un ferch oedd gan Robert, sef Winifred Bamford-Hesketh (g. 1859), a phriododd Douglas Mackinnon Baillie Hamilton, 12fed Iarll Dundonald yn 1878.[1]

Roedd y Stad yn darparu cyfleuon a gwasanaeth (swyddogol neu answyddogol) i aelodau dosbarth canol ac uwch y fro. Mae llawer o son am gipar Stad y Gwrych yn nyddiadur John (neu Lorrimer - nid yw'n amlwg) Thomas gan i'r dyddiadurwr o naturiaethwr ddibynnu'n helaeth ar ei sgiliau a'i wybodaeth (a gwn!). Ni chawsom wybod beth oedd enw "the keeper" chwaith (dosbarth îs siwr o fod). Dyma enghraifft o'r dyddiadur[2] yn cofnodi, gyda chymorth y cipar, adar sydd, rhai ohonynt, wedi hen ddiflannu:

2 Awst 1922: Keeper (Gwrych Castle) heard 2 Wrynecks pengam there 2 days ago, & has seen pair all summer, took Less-spott woodpecker cnocell fraith leiaf nest with eggs this year, all 3 w-peckers there. This year Pied Flycatchers gwybedog brith increased from 3 or 4 to 14 or 15 prs. Nightjars on hill, many hawks, once killed peregrine, merlin & Buzzard...Turtle doves turtur at Gwrych

1940au hyd y 1960au golygu

 
Yr Iarlles Winifred Bamford-Hesketh o Ddundonald

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i defnyddiwyd gan y Llywodraeth i lochesu 200 o aelodau Mudiad Seion yr Iddewon (Bnei Akiva).[3] Wedi'r rhyfel, torrwyd y cysylltiad gyda theulu Dundonald ac am ugain mlynedd roedd yn agored i'r cyhoedd. Ar yr adeg yma, fe'i galwyd yn "The Showpiece of Wales" a thyrrai ymwelwyr yno i'w weld.[4] Fe'i defnyddiwyd hefyd fel man hyfforddi y bocsiwr Randolph Turpin yn y 1950au cynnar. Yn y 1960au cynnar, fe'i defnyddiwyd yn achlysurol gan fotobeicwyr 'Dragon Rally'.

Dirywiad ac adferiad golygu

Ceuwyd ei ddrysau i'r cyhoedd yn 1985, a chychwynodd cyfnod o ddirywiad i adeiladwaith y castell.[5] Fe'i prynwyd yn 1989 gan Nick Tavaglione, dyn busnes Americanaidd, am £750,000.[4] Ond ni chychwynwyd adfer yr adeilad ac o ganlyniad anrhaethwyd y lle gan fandaliaid a'r tywydd.

Fe'i defnyddiwyd yn 1996 fel cefndir i'r ffilm Prince Valiant, a oedd yn serennu Edward Fox, Joanna Lumley a Katherine Heigl.[6] Dechreuodd bachgen ifanc 12 oed ymgyrchu dros gadwraeth y castell, sef Mark Baker.[7] Ffurfiodd ymddiriedolaeth i warchod ac adfer y castell, a gorfodwyd Bwrdeisdref Sirol Conwy i roi 'gorchymyn pryniant gorfodol' ar y lle. Gorfodwyd y perchennog Americanaidd i'w werthu ym Mawrth 2006 a phrynwyd y castell gan 'City Services Ltd' yn Ionawr 2007 am £850,000 a gwariwyd hanner miliwn ar y gwaith o'i adfer, ond o fewn dim, aeth yr hwch drwy'r siop.[6][8]

Yn Nhachwedd 2020, defnyddiwyd y castell fel lleoliad i'r gyfres Prydeinig I'm a Celebrity...Get Me Out of Here! am nad oedd y gyfres yn gallu defnyddio eu lleoliad arferol yn Awstralia oherwydd Pandemig COVID-19. Roedd yr enwogion yn byw yn y castell ac fe addaswyd nifer o nodweddion y gyfres ar gyfer y lleoliad.[9]

Roedd hyn yn cynnwys defnyddio arwyddion Cymraeg o fewn y castell a'r cyflwynwyr Ant a Dec yn defnyddio ambell air o Gymraeg wrth gyflwyno. Perchennog y siop yn y gyfres oedd 'Cledwyn' yn cymryd lle 'Kiosk Kev' o Awstralia.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. www.archiveswales.org.uk; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 12 Rhagfyr 2014
  2. Dyddiadur (y Parch.) Thomas, Tywyn, Abergele, 1921-1942, yn y Tywyddiadur,[1]
  3. "Welsh haven for Jewish children". BBC News website. 26 Ionawr 2006. Cyrchwyd 30 Ebrill 2007.
  4. 4.0 4.1 "Money boost for castle ruin fight". BBC News website. 11 Mai 2005. Cyrchwyd 30 Ebrill 2007.
  5. "Castle to be auctioned for £1.5m". BBC News website. 29 Mawrth 2006. Cyrchwyd 30 Ebrill 2007.
  6. 6.0 6.1 "Gothic castle to be luxury hotel". BBC News website. 30 Ebrill 2007. Cyrchwyd 30 Ebrill 2007.
  7. "Teenager leads castle preservation campaign". BBC News website. 27 Hydref 1999. Cyrchwyd 30 Ebrill 2007.
  8. Future of Abergele’s Gwrych Castle remains uncertain gan Rob Davies, Daily Post, 12 Ebrill 2010.
  9. Pennaeth ymddiriedolaeth Castell Gwrych “wedi anwybyddu neges ryfedd” gan ITV , Golwg360, 10 Tachwedd 2020. Cyrchwyd ar 26 Tachwedd 2020.
  10. Sicrhau lle amlwg i'r Gymraeg yn I'm a Celebrity... , BBC Cymru Fyw, 25 Tachwedd 2020. Cyrchwyd ar 26 Tachwedd 2020.

Dolen allanol golygu