Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

prif safle Amgueddfa Cymru, yr amgueddfa genedlaethol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (Saesneg: National Museum Cardiff) yw amgueddfa genedlaethol Cymru ar gyfer celf, archeoleg, a hanes byd natur. Lleolir hi ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd, mewn adeilad y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1912, er na agorodd yr amgueddfa i'r cyhoedd tan 21 Ebrill 1927.[1] Mae'n aelod o Amgueddfa Cymru, sef y rhwydwaith o amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru (a elwid gynt yn Amgueddfeydd ac Oriel Genedlaethol Cymru). Ymhlith ei harddangosfeydd parhaol y mae un am Esblygiad Cymru, sydd yn cyfuno cyflwyniadau fideo a gwrthrychau megis esgyrn deinosoriaid a chreigiau hynafol er mwyn adrodd hanes Cymru ers yr amseroedd cynharaf. Mae yno hefyd oriel llawn gwrthrychau amrywiol o gasgliadau'r amgueddfa y gellir eu cyffwrdd, sef Oriel Glanelai.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.JPG
Prif fynedfa'r amgueddfa
Math adeilad amgueddfa Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol 1922 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1912 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Parc Cathays Edit this on Wikidata
Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.485646°N 3.177259°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Casgliadau celfGolygu

 
La Parisienne gan Pierre-Auguste Renoir

Mae nifer o beintiadau yng nghasgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol sydd yn berthnasol at Gymru, megis y rheiny a gomisiynwyd gan Syr Watkin Williams-Wynn a thirfeddianwyr Cymreig eraill yn ystod y 18g. Mae gweithiau arlunwyr Cymreig megis Richard Wilson, Thomas Jones, John Gibson ac Augustus a Gwen John hefyd yn cael eu cynrychioli. Ond yr hyn sy'n gwneud yr Oriel Genedlaethol o safon ryngwladol yw'r casgliad o gelf Ffrengig o'r 19g a gasglwyd gan y chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies, a oedd ym mhlith y rhai cyntaf ym Mhrydain i brynu gweithiau gan yr Argraffiadwyr (Impressionists) Ffrengig. Y gweithiau enwocaf yn eu casgliad yw'r Gusan gan Auguste Rodin a La Parisienne gan Pierre-Auguste Renoir, ac mae peintiadau o ansawdd uchel gan Claude Monet, Paul Cézanne a Vincent van Gogh hefyd yn y casgliad. Casglai'r chwiorydd hefyd weithiau ar bapur, gan gynnwys nifer o brintiau Ukiyo-e o Siapan (a fu'n ysbrydoliaeth i nifer o'r arlunwyr a enwir uchod). Dalier sylw hefyd at y casgliad o beintiadau gan Honoré Daumier, y casgliad mwyaf ym Mhrydain o weithiau gan yr artist yma, a'r nifer o weithiau pwysig gan ei gyfoediwr Jean-François Millet.

CyfeiriadauGolygu

  1. www.bigenealogy.com; adalwyd 21 Ebrill 2015

Dolenni allanolGolygu