Arlunydd o Ffrainc oedd Claude Oscar Monet (14 Tachwedd 18405 Rhagfyr 1926), yn sylfaenydd y mudiad celfyddydol Argraffiadaeth (Impressionnisme), Ei baentiad Impression: Soleil levant ('Argraff: Yr haul yn codi') a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd.[1][2] Roedd ei uchelgais o ddogfenni tirwedd Ffrainc yn ei arwain i beintio'r un olygfa sawl tro er mwyn dal newidiadau yn y golau wrth i'r tymhorau pasio. O 1883 ymlaen bu'n byw yn Giverny, ble y prynodd dŷ ac aeth ati i godi gerddi yn cynnwys pyllau lili a ddaeth yn rhai o'i ddarluniau enwocaf.

Claude Monet
GanwydOscar-Claude Monet Edit this on Wikidata
14 Tachwedd 1840 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd20 Mai 1841 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Giverny Edit this on Wikidata
Man preswylGiverny, Villa Saint-Louis, Argenteuil, Vétheuil Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École nationale supérieure des Beaux-Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, arlunydd graffig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amImpression, Sunrise, Garden at Sainte-Adresse, Houses of Parliament serie, La Corniche near Monaco, Water Lilies, Rouen Cathedral Series Edit this on Wikidata
Arddullcelf tirlun, bywyd llonydd, portread Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGustave Courbet, Jean-François Millet, Édouard Manet, Joseph Mallord William Turner, Hokusai Edit this on Wikidata
MudiadArgraffiadaeth Edit this on Wikidata
PriodCamille Doncieux, Alice Hoschedé Edit this on Wikidata
PlantJean Monet, Michel Monet Edit this on Wikidata
llofnod
Mae Monet yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Monet a Manet, paentiwr arall o'r un cyfnod.

Monet ac Argraffiadaeth (Impressionnisme) golygu

 
Impression, soleil levant, 1872; (Argraff, yr haul yn codi) a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd. Musée Marmottan Monet, Paris

Yn siomedig ag agwedd ceidwadol yr Académie des Beaux-Arts ac eu hymateb negyddol i'w gwaith, trefnodd Monet a grŵp o arlunwyr o'r un meddwl arddangosfa eu hunain ym 1874. Roedd yr arddangosfa yn agored i unrhyw un oedd yn fodlon talu 60 ffranc ac yn cymeradwyo dim ymyrraeth o banel o ddetholwyr i wrthod unrhyw waith.

Fe arddangoswyd cyfanswm o 165 o weithiau, yn cynnwys rhai gan Renoir, Degas, Pissarro a Cézanne.

Galwyd y grŵp yn Impressionnistes. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy rhydd a ffres na chaniataodd gonfensiynau academaidd y cyfnod, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd. [3]

Ym 1876 symudodd teulu Monet i bentref Vétheuil yn rhannu tŷ ag Ernest Hoschedé, dyn busnes cyfoethog ac yn gefnogwr y celfyddydau. Ym 1879 bu farw ei wraig Camille o ganser yn 32 mlwydd oed.[11][12] Yn y cyfnod anodd wedi colled Camille peintiodd Monet rhai o ddarluniau gorau yn darganfod Giverny yn Normandi ym 1883.

Yn 1877 gwnaeth gyfres o ddarluniau o orsaf drenau St-Lazare, Paris, yn astudio ager a mŵg a'r ffordd a'u heffaith ar liw a thryloywder. Roedd yn gallu defnyddio’r astudiaethau hyn yn ddiweddarach ar gyfer effeithiau niwl a glaw.[13][14]


 
Monet, ar y dde, yn ei ardd yn Giverny, 1922

Prynodd dŷ yn Giverny ar gyfer ei deulu mawr, gydag ysgubor ar gyfer ei stiwdio. Wrth i gyfoeth Monet dyfu fe ehangodd y gerddi gan gyflogi 7 o arddwyr a phensaer.[15] Ym 1993 prynodd ragor o diroedd yn cynnwys dolydd gwlyb ble'r adeiladodd lynnoedd gyda lilis a phont Japaneaidd. Treuliodd yr 20 mlynedd nesaf yn gwneud cyfres o gynfasau mawrion o'r golygfeydd hyn gan astudio'r golau a'r adlewyrchiadau a ddaeth yn rhai o'i weithiau enwocaf.[16] Mae'r tŷ yn Giverny bellach yn agored i'r cyhoedd ac yn denu miloedd o dwristiaid o bob cwr o'r byd.

Peintiodd Monet yn uniongyrchol ar gynfasau mawrion yn yr awyr agored, a'u gorffen yn ei stiwdio yn nes ymlaen. Yn ei ymgais i well gyfleu natur fe wrthododd gonfensiynau Ewropeaidd y cyfnod ynglŷn â chyfansoddi, lliw a phersbectif. Fe'i dylanwadwyd gan brintiau bloc pren Japaneaidd, ei drefniadau anghymesur o elfennau yn pwysleisio eu harwynebedd dau ddimensiwn gan hepgor persbectif llinol. Llwyddodd greu lliwiau llachar ysgeifn gan ychwanegu amrywiaeth o dôn i'r cysgodion, ac yn paratoi cefndir y cynfas gyda lliwiau golau yn lle'r cefndiroedd tywyll a oedd yn draddodiadol mewn tirluniau.

Llyfryddiaeth golygu

  • Howard, Michael The Treasures of Monet. (Musée Marmottan Monet, Paris, 2007).
  • Kendall, Richard Monet by Himself, (Macdonald & Co 1989, updated Time Warner Books 2004), ISBN 0-316-72801-2
  • Monet's years at Giverny: Beyond Impressionism. New York: The Metropolitan Museum of Art. 1978. ISBN 978-0-8109-1336-3. External link in |title= (help) (full text PDF available)
  • Stuckey, Charles F., Monet, a retrospective, Bay Books, (1985) ISBN 0-85835-905-7
  • Tucker, Paul Hayes, Monet in the '90s. (Museum of Fine Arts in association with Yale University Press, New Haven and London, 1989).
  • Tucker, Paul Hayes Claude Monet: Life and Art Amilcare Pizzi, Italy 1995 ISBN 0-300-06298-2
  • Tucker, Paul Hayes, Monet in the 20th century. (Royal Academy of Arts]], London, Museum of Fine Arts, Boston and Yale University press. 1998).

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. House, John, et al.: Monet in the 20th century, page 2, Yale University Press, 1998.
  2. "Claude MONET biography". Giverny.org. 2 December 2009. Cyrchwyd 5 June 2012.
  3. "From John Rewald, The History of Impressionism". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-15. Cyrchwyd 2014-08-12.
  4. Norton Simon Museum
  5. "Musée d'Orsay". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-14. Cyrchwyd 2014-08-12.
  6. Metropolitan Museum of Art
  7. "Städel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-24. Cyrchwyd 2014-08-12.
  8. La Grenouillére at the Metropolitan Museum of Art
  9. "Le port de Trouville, Museum of Fine Arts, Budapest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-08. Cyrchwyd 2014-08-12.
  10. La plage de Trouville, 1870, National Gallery, London
  11. "La Japonaise". artelino. Cyrchwyd 5 June 2012.
  12. http://members.aol.com/wwjohnston/camille.htm
  13. "Monet's Village". Giverny. 24 February 2009. Cyrchwyd 5 June 2012.
  14. Charles Merrill Mount, Monet a biography, Simon and Schuster publisher, copyright 1966, p326.
  15. Garrett, Robert (20 May 2007). "Monet's gardens a draw to Giverny and to his art". Globe Correspondents. Cyrchwyd 13 October 2008.
  16. Art Gallery of Victoria, Monet's Garden Archifwyd 2013-12-16 yn y Peiriant Wayback., (retrieved 16 December 2013)