Un o ddyfeisiadau ymylol y cyfrifiadur yw'r argraffydd sy'n creu argraffiad (neu brint) o ddelwedd a thestun ar bapur.[1]

Argraffydd
Mathdyfais electronig, peiriant argraffu, perifferolyn Edit this on Wikidata
Yn cynnwysprinter carriage Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
HP LaserJet 1020, argraffydd a welodd olau dydd yn gyntaf yn 2005

Cynhyrchwyd yr argraffydd cyntaf, yr 'EP-101', gan gwmni Epson, o Japan yn 1968.[2][3] Roedd y teipiadur yn bodoli cyn hynny wrth gwrs, ond ystyrir yr argraffyd cyfrifiadurol yn ddyfais electronig a gysylltir i gyfrifiadur. Er i Charles Babbage gynllunio dyfais nid annhebyg i'r argarffydd yn 19g, ni chafod ei greu tan 2000.[4] Defnyddiai'r argraffyddion cynharaf rannau o'r teipiadur a'r peiriannau 'Teletype'.

Argraffyddion 'dot matrics' oedd y cynharaf i ymddangos, ond roedd y safon yn bur isel, yna, yn y 1980au cynnar daeth y daisy wheel, a chododd y safon ond dim ond testun oedd yn cael ei argraffu; roedd hefyd yn argraffu'n llawer cynt na'r dot matrics. Yr un pryd cynhyrchwyd arfgraffydd a elwid yn plotter - ar gyfer pensaeri ayb er mwyn creu llinellau, glasbrint a diagramau mawr, hyd at maint A1.

Erbyn 1983 roedd yr argraffydd laser wedi cyrraedd: a hynny'n wreiddiol gan gwmni Hewlett-Packard (HP); argraffydd a a oedd yn cynnwys yr iaith gyfrifiadurol PostScript (a ddatblygwyd gan Adobe Systems), a chododd y safon dros nos.[5]. Roedd yr argraffyddion laser, drwy'r defnydd o BostScript yn uno testun a delweddau ac yn gwneud hynny i safon gwell na chyn hynny ac yn llawer cyflymach. Agorwyd siopau bychan i gynnig gwasanaethau printio, copio ayb ac ar yr un pryd daeth prisiau argraffyddion laser i lawr i tua £250, a rhai lliw llawn oddeutu £400.

Math arall o argraffydd oedd y deskjet: lansiwyd y cyntaf yn 1988 gan HP unwaith eto, sef yr HP Deskjet, oedd fymryn yn rhatach na'r laser, ond a'i safon hefyd fymryn yn is, yn ddibynnol ar y papur a ddefnyddid. Erbyn 2000 roedd y rhain ar gael am oddeutu canpunt, a gwelwyd gwerthiant yr argraffydd matrics yn lleihau. Fodd bynnag, yn 2019 roedd rhai yn dal i'w cael, ac yn gweithio'n berffaith; gwelir un mewn garej yn Rhuthun roedd un yn dal i gael ei ddefnyddio i argraffu biliau a derbynebion.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Printer - Definition of printer by Merriam-Webster". merriam-webster.com.
  2. 40 years since Epson’s first Electronic Printer Archifwyd 2018-06-16 yn y Peiriant Wayback, Digital Photographer
  3. About Epson Archifwyd 2017-02-27 yn y Peiriant Wayback, Epson
  4. Babbage printer finally runs, BBC News, 13 Ebrill 2000, http://news.bbc.co.uk/1/hi/sci/tech/710950.stm
  5. Kaplan, Soren (1999). "Discontinuous innovation and the growth paradox". Strategy and Leadership 27 (2): 16–21. doi:10.1108/eb054631.