Dyfais neu declyn ategol a ddefnyddir i roi gwybodaeth a data i mewn ac allan o gyfrifiadur yw perifferolyn.[1][2]

Enghraifft o ddyfais mewnbynnu, sef y Microsoft Kinect. Mae'n synhwyrydd pobl, sy'n trosglwyddo gwybodaeth pwy sy'n ei basio i'r cyfrifiadur.
Enghraifft o ddyfais allbynnu: argraffu 3D. Yn y fideo fer hon (10 eiliad), gwelir yr argraffydd yn creu model o robot, drwy ddefnyddio FDM.

Ceir tri chategori o ddyfeisiau perifferol: dyfais mewnbynnu, dyfais allbynnu a dyfais deubwn (mewnynnu ac allbynnu):

  1. dyfais mewnbynnu: llygoden, bysellfwrdd, tabled cyfrifiadurol a graffeg, sganiwr, darllenwr cod bar, rheolwr gemau, pin golau, meicroffon, camera digidol, gwe-gam (web cam) a ROM
  2. dyfais allbynnu: sgrin cyfriaifiadurol, taflunydd, argraffydd, argraffu 3D, clustffonau a seinyddion
  3. dyfais deubwn: storfa ddata e.e. co bach a'r Cof RAM

Mae gan y ffôn clyfar a'r tabled cyfrifiadurol ryngwyneb a meddalwedd priodol i gasglu data a'i allbynnu, hefyd e.e. monitro curiad y galon neu'r tymheredd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Bangor; "perifferolyn" yw'r term a ddefnyddir gan Y Termiadur Addysg - Technoleg Gwybodaeth. Adalwyd 11 Mawrth 2019.
  2. Laplante, Philip A. (2000). Dictionary of Computer Science, Engineering and Technology. CRC Press. t. 366. ISBN 0-8493-2691-5. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2016. Cyrchwyd 16 ionawr 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Check date values in: |accessdate= (help)