Argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr
Y sefyllfa ddyngarol enbydus yn sgîl hil-laddiad Rwanda oedd argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr. Ymadawodd dros ddwy filiwn o Rwandiaid i wledydd cyfagos yn ardal Llynnoedd Mawr Affrica yn y cyfnod 6 Ebrill–19 Gorffennaf 1994. Y Twtsïaid a'r Hwtwiaid cymedrol, rhyw 800,000–1 miliwn ohonynt, a lofruddiwyd yn y lladdfâu dan arweiniad Lluoed Arfog Rwanda'r Hwtw (FAR). Roedd y mwyafrif o'r ffoaduriaid yn Hwtwiaid a ddaeth i aros mewn gwersylloedd yn Saïr, Tansanïa a Bwrwndi.
Gwersyll ffoaduriaid yn Saïr ym 1994. | |
Enghraifft o'r canlynol | migrant crisis |
---|---|
Gwladwriaeth | Saïr, Tansanïa, Rwanda |
Cychwynnodd yr ymfudiad wrth i natur frys y hil-laddiad ddadleoli niferoedd enfawr o sifiliaid. Gadawodd mwy na 1.5 miliwn o Hwtwiaid Rwanda erbyn mis Gorffennaf. Dihangodd dros filiwn rhagor o Hwtwiaid yn nyddiau ola'r hil-laddiad. Mudodd tua 850,000 o ffoaduriaid trwy dref Goma yn nwyrain Säir rhwng 14 a 18 Gorffennaf. Roeddynt yn ofni dial gan Ffrynt Gwladgarol Rwanda (RPF), a enillodd rheolaeth dros y wlad wrth i'r gwrthdaro dod i ben. Croesodd 300,000 arall y goror i Saïr yn sgîl cau'r parth diogel dan reolaeth y Ffrancod yn ne-orllewin Rwanda ym mis Awst. Erbyn Medi 1994, amcangyfrifir i ddwy filiwn o Hwtwiaid geisio lloches yn Saïr, Tansanïa a Bwrwndi. Yn ôl ystadegau Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, ym Medi 1996 roedd 533,000 o ffoaduriaid Rwandaidd yn Nhansanïa a 1,105,000 ohonynt yn Saïr.[1]
Ymhlith y ffoaduriaid roedd miloedd o aelodau'r Interahamwe, llu lledfilwrol Hwtŵaidd, a nifer o gwleidyddion a swyddogion y FAR. Mae'n bosib bu 10–15% o'r ffoaduriaid yn genocidaires, hynny yw ymysg yr hil-lofruddion. Gwnaeth aelodau'r llywodraeth a'r arweinwyr milwrol ddwyn nifer o adnoddau'r wladwriaeth gyda hwy: arian ac asedau eraill o'r trysorlys, cyfrifon banc tramor, arfau a werthid iddynt gan lywodraethau er gwaethaf gwaharddiad arfau gan y Cenhedloedd Unedig, ac hyd yn oed dolenni'r drysau a fframiau'r ffenestri o'r adeiladau gweinyddol. Ymsefydlodd y mwyafrif o'r arweinwyr yn Saïr, a llywodraeth y wlad honno yn esgeuluso'r troseddau. Buont yn byw am gyfnod mewn gwestai ar lannau Llyn Kivu, tra'r oedd cyn-filwyr y FAR yn byw yn y gwersylloedd ffoaduriaid mawr.[1]
Wedi methiant y gymuned ryngwladol i atal yr hil-laddiad, denodd yr argyfwng ffoaduriaid cryn sylw gan y cyfryngau. Ymgasglodd 450 o sefydliadau anllywodraethol, asiantaethau cymorth ac elusennau dyngarol yn Rwanda a'r gwersylloedd ffoaduriaid yn y gwledydd cyfagos. Roedd presenoldeb y genocidaires yn hynod o beryglus i'r sefyllfa ddyngarol, gan iddynt ddefnyddio'r gwersylloedd i lansio cyrchoedd ar lywodraeth newydd Rwanda. Tynodd nifer o sefydliadau'n ôl o'r ardal gan geisio atal dargyfeirio'r cymorth i'r grwpiau hyn.[2] Gwaethygodd y gwrthdaro nes cychwyn Rhyfel Cyntaf y Congo ym 1996, pan goresgynnwyd Saïr dan nawdd Rwanda a cheisiwyd dychwelyd y ffoaduriaid yn ôl i'w mamwlad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Victoria Passant. "The Great Lakes Refugee Crisis and the Dilemma of Contemporary Humanitarianism", POLIS (Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2016.
- ↑ (Saesneg) Howard Adelman. "The Use and Abuse of Refugees in Zaire". Adalwyd ar 18 Tachwedd 2016.