Arlywydd y Traeth Ifori
Pennaeth y wladwriaeth yn y Traeth Ifori yw Arlywydd y Traeth Ifori (Ffrangeg: Président de Côte d'Ivoire). Cynhelir etholiad cenedlaethol bob pum mlynedd i ddewis unigolyn i lenwi'r swydd.
Math o gyfrwng | swydd |
---|---|
Math | arlywydd |
Rhan o | Cabinet y Traeth Ifori |
Deiliad presennol | Alassane Ouattara |
Gwladwriaeth | Y Traeth Ifori |
Sefydlwyd y swydd mewn egwyddor ar 7 Awst 1960, diwrnod annibyniaeth Gweriniaeth y Traeth Ifori oddi ar Ffrainc. Cyhoeddwyd cyfansoddiad newydd ar 3 Tachwedd y flwyddyn honno, gan sefydlu llywodraeth arlywyddol, a chynhaliwyd yr etholiad arlywyddol cyntaf ar 27 Tachwedd 1960.
Rhestr
golygu- Félix Houphouët-Boigny (27 Tachwedd 1960 – 7 Rhagfyr 1993)
- Henri Konan Bédié (7 Rhagfyr 1993 – 24 Rhagfyr 1999)
- Robert Guéï (24 Rhagfyr 1999 – 26 Hydref 2000)
- Laurent Gbagbo (26 Hydref 2000 –11 Ebrill 2011)
- Alassane Ouattara (ers 6 Mai 2011)