Robert Guéï
Swyddog milwrol a gwleidydd Iforaidd oedd y Cadfridog Robert Guéï (16 Mawrth 1941 – 19 Medi 2002) a wasanaethodd yn Arlywydd y Traeth Ifori o 1999 i 2000. Efe oedd y cyntaf i lansio coup d'état a chipio grym yn hanes Gweriniaeth y Traeth Ifori,[1] a'r unben cyntaf yn hanes Affrica i gael ei ddymchwel gan wrthryfel poblogaidd.[2]
Robert Guéï | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mawrth 1941 Man |
Bu farw | 19 Medi 2002 Cocody |
Dinasyddiaeth | Y Traeth Ifori |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arlywydd y Traeth Ifori |
Plaid Wleidyddol | Democratic Party of Côte d'Ivoire – African Democratic Rally |
Priod | Rose Doudou Guéï |
Ganed ef ym mhentref Kabakouma yng nghyfnod Gwladfa'r Traeth Ifori. Un o lwyth yr Yacouba, un o'r bobloedd Mandé, ydoedd.[2] Cafodd ei hyfforddi yn Saint-Cyr, academi Byddin Ffrainc yn Gwern-Porc'hoed, Llydaw, cyn dychwelyd i'r Traeth Ifori a enillodd ei hannibyniaeth oddi ar Ffrainc ym 1960. Cyrhaeddodd uchafbwynt ei yrfa filwrol ym 1990 pan gafodd ei benodi'n bennaeth y fyddin gan yr Arlywydd Félix Houphouët-Boigny yn sgil miwtini.
Wedi marwolaeth Houphouët-Boigny ym 1993, fe'i olynwyd yn arlywydd gan lefarydd y cynulliad, Henri Konan Bédié. Gwrthododd Guéï gefnogi Bédié yn ei frwydr wleidyddol â'r cyn-brif weinidog Alassane Ouattara, gan felly chwalu'r berthynas rhyngddynt. Yn Awst 1995, deufis cyn etholiad arlywyddol, cyhoeddodd Guéï amhleidioldeb y fyddin wedi i brotestwyr galw am foicot wedi i'r llywodraeth rhwystro ymgyrchoedd ei gwrthwynebwyr, gan gynnwys atal Ouattara rhag ymgeisio. Ail-etholwyd Bédié gyda 96% o'r bleidlais, a pharhaodd y gwrthdystiadau. Wedi i Guéï wrthod gorchymyn Bédié i ddefnyddio milwyr i ostegu'r protestiadau, cafodd ei ddiswyddo o arweinyddiaeth y fyddin. Cafodd ei benodi'n weinidog dros ieuenctid a chwaraeon, ond fe'i diswyddwyd o'r cabinet a'r fyddin ym 1995 o ganlyniad i gyhuddiad o geisio coup.[1]
Ar 24 Rhagfyr 1999 arweiniodd Guéï coup d'état gyda chefnogaeth y milwyr cyffredin i ddymchwel yr Arlywydd Bédié. Er iddo honni ar y cychwyn nad oedd am grynhoi ei rym, yn yr etholiad arlywyddol yn Hydref 2000 hawliodd Guéï fuddugoliaeth serch enillodd ei wrthwynebydd, Laurent Gbagbo, ddwywaith y nifer o bleidleisiau bron. Trodd y bobl yn ei erbyn, a fe'i gorfodwyd i ffoi Abidjan. Ymsefydlodd ym mhentref Gouessesso, ger y ffin â Liberia.[1]
Cafodd Guéï ei wahodd gan yr Arlywydd Gbagbo i gynhadledd ailgymodi genedlaethol, ynghyd ag Ouattara a Bédié, i geisio tawelu'r gwrthdaro gwleidyddol yn y Traeth Ifori. Cytunodd y pedwar dyn i gefnogi'r broses ddemocrataidd. Fodd bynnag, ym Medi 2002, cyhoeddodd ei fod am dynnu cefnogaeth ei blaid yn ôl o lywodraeth Gbagbo, a'i cyhuddodd o artaith, camlywodraeth, ac ansefydlogi'r wlad. Ar 19 Medi 2002, diwrnod cyntaf Rhyfel Cartref Cyntaf y Traeth Ifori, saethwyd Guéï, ei wraig, a'u plant yn farw wrth iddynt cael cinio yn Abidjan, wedi i gannoedd o filwyr gwrthryfela. Yn 2016, cafwyd sawl swyddog yn euog o lofruddio Guéï, a dedfrydwyd tri ohonynt i garchar am oes.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Margaret Busby, "Obituary: General Robert Guéï", The Guardian (21 Medi 2002). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Tachwedd 2015.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Robert Guéï 1941–2002", Contemporary Black Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 10 Chwefror 2024.
- ↑ (Saesneg) Ange Aboa, "Ivory Coast soldiers get life sentences for killing ex-president", Reuters (19 Ionawr 2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Chwefror 2024.