Félix Houphouët-Boigny
Gwleidydd a meddyg Iforaidd oedd Félix Houphouët-Boigny (18 Hydref 1905 – 7 Rhagfyr 1993) a wasanaethodd yn Arlywydd y Traeth Ifori am 33 mlynedd, o annibyniaeth y weriniaeth ym 1960 hyd at ei farwolaeth.
Félix Houphouët-Boigny | |
---|---|
Ganwyd | Dia Houphouët 18 Hydref 1905, 16 Hydref 1905 N’Gokro |
Bu farw | 7 Rhagfyr 1993 Yamoussoukro |
Dinasyddiaeth | Y Traeth Ifori |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Prif Weinidog Arfordir Ifori, Arlywydd y Traeth Ifori |
Plaid Wleidyddol | Democratic Party of Côte d'Ivoire – African Democratic Rally |
Priod | Marie-Thérèse Houphouët-Boigny, Kady Racine Sow |
Plant | Guillaume Houphouët-Boigny |
Gwobr/au | Q126658920, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctorate of the University of the Mediterranean - Aix Marseille II, Honorary doctorate Paris Descartes University, Urdd Teilyngdod Sifil |
llofnod | |
Ganed ef yn Yamoussoukro, Gwladfa'r Traeth Ifori, un o drefedigaethau Ffrainc yng Ngorllewin Affrica, yn fab i benadur cefnog o'r bobl Baoulé. Gweithiodd yn feddyg yng nghefn gwlad, ac enillodd arian hefyd fel perchennog planhigfeydd. Cychwynnodd ar ei yrfa wleidyddol ym 1944 pan gyd-sefydlodd y Syndicét Amaethyddol Affricanaidd i gynrychioli planwyr brodorol a oedd yn anfodlon â'r drefn dan y Ffrancod. Cafodd ei ethol yn ddirprwy i gynrychioli etholaeth frodorol y Traeth Ifori a Blaenau'r Folta yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc yn yr etholiadau cyntaf yn y ddwy wladfa honno ym 1945, a fe'i ail-etholwyd y flwyddyn olynol. Yn Ebrill 1946 sefydlodd Houphouët-Boigny Blaid Ddemocrataidd y Traeth Ifori (PDCI), yn gysylltiedig â Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc. Yn sgil cynhadledd yn Bamako, Swdan Ffrengig, yn Hydref 1946, daeth y PDCI yn rhan o Gynulliad Democrataidd Affrica (RDA) a sefydlwyd i gydlynu'r frwydr wleidyddol dros wrthdrefedigaethrwydd ar draws ffederasiynau Gorllewin Affrica Ffrengig ac Affrica Gyhydeddol Ffrengig, a gwasanaethodd Houphouët-Boigny hefyd yn llywydd yr RDA.
Yn niwedd y 1940au trodd y llywodraeth drefedigaethol yn fwyfwy ddrwgdybus o'r PDCI, yn enwedig wedi i'r Blaid Gomiwnyddol gael ei bwrw allan o'r glymblaid Tripartisme ym 1947, a phenderfynodd Houphouët-Boigny dorri ei gysylltiadau â'r comiwnyddion yn Hydref 1950 ac i gydweithio â'r Ffrancod wrth i'w blaid ennill cefnogaeth. Yn y cyfnod o 1956 i 1960, teithiodd yn ôl ac ymlaen rhwng ei famwlad a la Métropole, yn cynrychioli'r Traeth Ifori a Blaenau'r Folta yn y Cynulliad Cenedlaethol ym Mharis ac yn gwasanaethu'n faer Abidjan, yn llywydd y cynulliad trefedigaethol, ac yn arweinydd y PDCI. Er iddo ddod i'r amlwg fel un o'r prif arweinwyr dros annibyniaeth i drefedigaethau Ffrainc yn Affrica, gwrthodai'n gryf y syniad o ffederasiwn yng Ngorllewin Affrica, gan nad oedd am i gael gwledydd tlotach y rhanbarth yn dibynnu ar gymorthdaliadau o economi'r Traeth Ifori. Ym 1958, wedi i'r Arlywydd Charles de Gaulle gynnig refferendwm i ddewis rhwng ffederasiwn neu annibyniaeth, ymgyrchodd Houphouët-Boigny yn llwyddiannus dros hunanlywodraeth, er yn rhan o Gymuned Ffrainc. Fe'i penodwyd yn brif weinidog ym 1959, a datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth y Traeth Ifori yn ffurfiol ar 7 Awst 1960. Cyhoeddwyd cyfansoddiad newydd ar 3 Tachwedd, gan sefydlu llywodraeth arlywyddol, ac ar 27 Tachwedd 1960 etholwyd Houphouët-Boigny yn arlywydd cyntaf y Traeth Ifori.
O'r cychwyn, rhoes polisïau rhydd-fenter ar waith, gan ryddfrydoli'r economi a datblygu amaethyddiaeth y wlad. Byddai'r pwyslais hwn ar gnydau gwerthu yn wahanol i nifer o wledydd newydd-annibynnol eraill Affrica, a geisiodd ddiwydiannu dan reolaeth y wladwriaeth. Dan ei arweiniad, daeth y Traeth Ifori yn un o brif allforwyr coco, coffi, pîn-afalau, ac olew palmwydd. Croesawodd fuddsoddiad tramor, a chyflogwyd miloedd o dechnegwyr a rheolwyr o Ffrainc i gynorthwyo datblygiad economaidd.[1] Erbyn y 1980au, y Traeth Ifori oedd un o wledydd cyfoethocaf Affrica, a gelwid ffyniant economaidd y wlad yn "y gwyrth Iforaidd".
Hyd at 1990, gwladwriaeth un-blaid oedd y Traeth Ifori, ac yr oedd yn rhaid i bob oedolyn yn y wlad fod yn aelod o'r PDCI. Fe'i ail-etholwyd yn arlywydd heb wrthwynebiad ym 1965, 1970, 1975, 1980, a 1985. Fodd bynnag, unben pragmataidd ydoedd, a cheisiodd dawelu unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol i'w rym drwy gydweithio, consensws, a chyfaddawdu.[1] Yn Hydref 1990, cynhaliwyd etholiad arlywyddol am y tro cyntaf gyda gwrthwynebydd, Laurent Gbagbo o'r Ffrynt Poblogaidd Iforaidd. Enillodd Houphouët-Boigny unwaith eto, gyda 82% o'r bleidlais, a thair mlynedd yn ddiweddarach bu farw yn Yamoussoukro yn 88 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Félix Houphouët-Boigny. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Chwefror 2024.