Nofelydd, bardd, dramodydd, ac ysgrifwr Norwyaidd oedd Arne Evensen Garborg (25 Ionawr 185114 Ionawr 1924). Garborg oedd un o'r llenorion cyntaf i ysgrifennu drwy gyfrwng Nynorsk, ar ffurf Landsmaal, iaith lenyddol a safonwyd gan Ivar Aasen er meithrin llên genedlaethol fodern yn Norwy.

Arne Garborg
GanwydAadne Eivindsson Garborg Edit this on Wikidata
25 Ionawr 1851 Edit this on Wikidata
Undheim Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 1924 Edit this on Wikidata
Asker Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, dyddiadurwr, dramodydd, bardd Edit this on Wikidata
PriodHulda Garborg Edit this on Wikidata
PlantArne Olaus Fjørtoft Garborg Edit this on Wikidata

Ganed yn Time yn ne-orllewin Norwy, pan oedd y wlad yn rhan o Deyrnasoedd Unedig Sweden a Norwy. Ffermwr oedd ei dad, a laddodd ei hunan oherwydd cyfuniad o feddwl mewn cynnwrf crefyddol a siom wedi i'w fab wrthod gweithio ar fferm y teulu. Cafodd Garborg ei hyfforddi mewn athrofa a gweithiodd yn athro ac yn olygydd papurau newydd cyn iddo astudio ym Mhrifysgol y Brenin Ffredrig (bellach Prifysgol Oslo) yn y brifddinas, Kristiania. O ganlyniad i hunanladdiad ei dad, trodd Garborg yn erbyn crefydd uniongred, yn enwedig Pietistiaeth ei fachgendod. Cofleidiodd daliadau sosialaidd ac anarchaidd, a chariad rhydd, a dehonglodd Gristnogaeth yn ffydd er chwyldro'r ysbryd a'r gymdeithas.[1]

Ymhlith ei nofelau, sydd yn nodweddiadol o fudiad naturiolaeth, mae Bondestudentar (1883), Hjaa ho mor (1890), Trætte mænd (1891), Fred (1892). Ei gampwaith yw'r cylch barddonol Haugtussa (1895), a osodir ar gân gan Edvard Grieg. Cyfieithodd yr Odyseia (1918) a rhan o'r Mahābhārata (1921) i'r Norwyeg. Bu farw Garborg yn 72 oed yn Asker, ger Kristiania.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Arne Evensen Garborg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Chwefror 2020.