Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Arolwg wyneb-yn-wyneb yw Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (yr ABoB), arolwg o tua 300,000 o bobl ar draws y Deyrnas Gyfunol. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n gweithredu'r arolwg hwn, a hynny ers 2004.[1] Yn ei adroddiad, mae'n cyfuno'r canlynol: Arolwg y Llafurlu (LFS), Arolwg o lafurlu Cymru, Lloegr a'r Alban sy'n cael eu hariannu gan yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES), yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth yr Alban.[2]
Mae'r arolwg yn ymwneud â phynciau fel cyflogaeth, tai, ethnigrwydd, iechyd ac addysg yng Nghymru. Ceir cwestiynau hefyd am allu pobl o ran y Gymraeg, a pha mor aml y maent yn ei siarad.
Mae pob set o ddata'n cynnwys 12 o ddata. Ar gyfer pob set, mae'r niferoedd o bobl oddeutu 170,000 o gartrefi a 360,000 unigolyn. Gellir lawrlwytho'r data o UK Data Service.
Hanes
golyguCyhoeddwyd data'r APS gyntaf yng Ngorffennaf 2005, gan gynnwys data a gasglwyd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2004. Ers hynny, mae'r data wedi cael ei gyhoeddi'n chwarterol ond gyda phob set ddata yn ymwneud â blwyddyn gyfan. Rhwng Ionawr 2004 a Rhagfyr 2005, cyflwynwyd sampl ychwanegol, a elwir yn "hwb" (Saesneg: boost) yr APS, ond daeth i ben yn 2006 oherwydd diffyg cyllid.
Cymru
golygu2001-2018
golyguYn ei adroddiad: Canlyniadau mewn perthynas â’r Gymraeg: Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, 2001- 2018 cyhoeddwyd fod tua 35,000 o bobl yn cael eu cynnwys yn yr arolwg bob blwyddyn ac mae'r cwestiynau canlynol wedi'u cynnwys am y Gymraeg i'r rhai sy'n dair oed neu'n hŷn:[3]
- Ydych chi’n deall Cymraeg llafar?
- Ydych chi’n gallu siarad Cymraeg?
- Ydych chi’n gallu darllen Cymraeg?
- Ydych chi’n gallu ysgrifennu Cymraeg?
- Pa mor aml ydych chi’n siarad Cymraeg?
Adroddodd yr ABoB fod 898,700 o bobl tair oed neu hŷn (neu 29.9%) yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2018.
Mae'r siart ganlynol, a gyhoeddir yn yr adroddiad, yn dangos bod nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu’n raddol ers bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), ar ôl dirywiad cyson o 2001 i 2007. Dengys y canlyniadau diweddaraf bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi codi’n ôl i’r hyn a ddywed yr ABoB yn 2001 (pan oedd 30.0%, neu 834,500 o bobl yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg).
Dyma'r nifer fwyaf erioed o siaradwyr Cymraeg a gafwyd yn yr ABoB. Er bod data arolygon yn gallu amrywio o chwarter i chwarter, mae canlyniadau’r ABoB yn dangos cynnydd cyson dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n dangos y gallai nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn siarad Cymraeg fod yn cynyddu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru; 29 MAi 2019; rhagarweiniad; adalwyd 4 Mehefin 2019.
- ↑ "APS user guide". Office for National Statistics. Cyrchwyd 16 Medi 2009.
- ↑ Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru; 29 MAi 2019; tud. 3; adalwyd 4 Mehefin 2019.
OGL: Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a drwyddedwyd ar Drwydded Llywodraeth Agored: -->