Swyddfa Ystadegau Gwladol
Adran weithredol Awdurdod Ystadegau'r DU, adran anweinidogol sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Senedd, yw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (Saesneg: Office for National Statistics neu ONS). Ei phwrpas yw casglu a chyhoeddi ystadegau sy'n ymwneud ag economi, poblogaeth, a chymdeithas Cymru a Lloegr ar lefelau cenedlaethol a lleol.
Enghraifft o'r canlynol | statistical service, adran anweinidogol o'r llywodraeth |
---|---|
Rhan o | UK statistical system, European Statistical System |
Dechrau/Sefydlu | 1 Ebrill 1996 |
Rhagflaenydd | Central Statistical Office, Office of Population Censuses and Surveys |
Rhiant sefydliad | UK Statistics Authority |
Pencadlys | Casnewydd, y Deyrnas Unedig |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.ons.gov.uk/, https://cy.ons.gov.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleolir pencadlys y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd; mae ganddynt hefyd swyddfeydd yn Titchfield a Llundain.