Llwyth Celtaidd a drigai yng ngogledd Gâl oedd yr Atrebates. Roedd ganddynt diriogaeth yn ardal Artois (gogledd Ffrainc). Daw'r enw o'r gair Galeg tybiedig *Ad-trebates, yn ôl pob tebyg, sy'n golygu "ymsefydlwyr". Rhywbryd yn y ganrif 1af CC ymsefydlodd nifer o'r Atrebates yn ne-orllewin Prydain.

Atrebates
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol, llwyth Edit this on Wikidata
MathY Galiaid Edit this on Wikidata
Rhan oBelgae, Y Galiaid, Brythoniaid Edit this on Wikidata
Gâl

Prifddinas y llwyth yng Ngâl oedd Nemetacum. Pan oresgynwyd yr Atrebates gan luoedd Rhufeinig Iwl Cesar yn OC 57, sefydlwyd tref garsiwn a chanolfan weinyddol Atrebatum, sy'n dwyn eu henw, ar safle tref hanesyddol Arras (département Pas-de-Calais).

Brenhinoedd yr Atrebates golygu

  1. Commius, 57 - c. 20 CC
  2. Tincomarus, c. 20 CC - OC 7, mab Commius
  3. Eppillus, OC 8 - 15, brawd Tincomarus
  4. Verica, 15 - 40, brawd Eppillus