Arrondissements Ffrainc

(Ailgyfeiriad o Arrondissements of France)

Mae 342 o arrondissements Ffrainc, sef is-raniadau o 100 département Ffrainc. Mae arrondissement yn cyfateb yn fras i 'gylch' lleol neu ardal yn Gymraeg, ond does dim uned llywodraeth leol yng Nghymru a Phrydain sy'n cyfateb yn union iddo.

Arrondissements Ffrainc
Mathadran tiriogaethol Ffrainc, arrondissement, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is raniad (lefel 3) o sir, o ran gweinyddiaeth Edit this on Wikidata
Rhan odépartements Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gelwir prifddinas arrondissement yn sous-préfecture. Pan mae'r arrondissement yn cynnwys préfecture (prif-ddinas) y département, y préfecture hwnnw yw prif-ddinas yr arrondissement yn ogystal.

Rhennir yr arrondissements yn bellach yn cantons a communes (Cymunedau).

Rhennir Paris, Lyon a Marseille hefyd yn arrondissements trefol: ni ddylir drysu rhain gyda'r arrondissements a ddisgrifir yn yr erthygl hon.

Arrondissements Paris yw'r arrondissements fwyaf enwog ac eiconig gyda bri mawr ar arrondissements yn ôl eu rhif fel un o'r ugain sydd yn y brifddinas.

Rôl a gweinyddiaeth

golygu

Mae gweinyddiaeth arrondissement wedi ei neilltuo i sous-préfet sy'n cynorthwyo préfet y département.

Yn wahanol i régions (rhanbarthau), départements a communes, nid oes gan yr arrondissements y statws o fod yn endidau cyfreithiol yng nghyfraith gyhoeddus y wlad. Yn ogystal, ac yn wahanol i'r is-raniadau eraill, nid ydynt yn cael eu rhedeg gan swyddogion sydd wedi cael eu hethol, ond gan swyddogion a benodir gan Arlywydd Ffrainc ei hun.

Cynigwyd y syniad o gael arrondissements sawl gwaith fel diwygiad gweinyddol yn ystod yr Ancien Régime, yn nodweddiadol gan intendant Bretagne, généralité Caze de La Bove, yn ei Mémoire concernant les subdélégués de l'intendance de Bretagne yn 1775.

Crewyd yr arrondissements dan y Loi du 28 pluviôse ym mlwyddyn VIII o'r Calendr Gweriniaethol (17 Chwefror 1800) gan ddisodli districts. Maen rhai cyfnodau yn hanes Ffrainc, maent wedi chwarae rhôl mewn etholiadau deddfwriaethol, yn arbennig yn ystod y Drydedd Weriniaeth. Cysidrwyd deddf 10 Medi 1926, a ddileodd 106 o arrondissements am resymau ariannol, i fod yn driniaeth etholaethol gan lawer.

Ystadegau

golygu

Tri neu bedwar o arrondissements sydd gan y rhan fwyaf o'r départements. Dim ond un sydd gan départements Paris a Territoire de Belfort, tra bod gan département Moselle naw.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.