Arthur Hughes

llenor

Golygydd a llenor Cymreig oedd Arthur Hughes (2 Ionawr 187825 Mehefin 1965), a gofir fel golygydd dwy flodeugerdd ac fel gŵr a gyfranodd yn sylweddol i fywyd diwyllianol Y Wladfa ym Mhatagonia.[1]

Arthur Hughes
Ganwyd2 Ionawr 1878 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 1965 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
MamAnnie Harriet Hughes Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Arthur Huhges yn Nhalsarnau, Meirionnydd, yn 1878, yn fab i'r meddyg John Hughes Jones a'i wraig Annie, sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol Gwyneth Vaughan.

Roedd yn feirniad llenyddol craff a ymddiddorai mewn barddoniaeth Gymraeg. Golygodd ddwy flodeugerdd bwysig yn y 1900au, sef Cywyddau Cymru (1909) a Gemau'r Gogynfeirdd (1910). Ymfudodd i Batagonia y flwyddyn wedyn a bu'n byw yno am weddill ei oes. Ysgrifennodd nifer o erthyglau i gylchgronau Cymraeg.

Roedd yn dad i Irma Hughes de Jones.

Llyfryddiaeth golygu

Golygydd golygu

  • Cywyddau Cymru (Jarvis a Foster, Bangor, 1909; ail argraffiad, Bangor 1926)
  • Gemau'r Gogynfeirdd (1910)

Erthygl amdano golygu

Cyfeiriadau golygu