Irma Hughes de Jones
Llenor Cymraeg o'r Wladfa
Llenor Cymraeg o'r Wladfa oedd Irma Hughes de Jones (1918 – 18 Ebrill 2003). Hi oedd golygydd Y Drafod o 1953 hyd ei marwolaeth yn 2003. Fe'i gelwir hefyd yn "Irma Ariannin" ac "Irma'r Drafod".
Irma Hughes de Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1918 |
Bu farw | 18 Ebrill 2003 |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | golygydd, llenor |
Ganwyd Irma Hughes de Jones yn 1918 ar fferm Erw Fair yn ardal Treorci, Dyffryn Camwy, Talaith Chubut. Ei thad oedd y golygydd Arthur Hughes. Dechreuodd Irma gyfrannu i'r Drafod yn 10 oed.[1] Yn 1946, hi oedd y ferch gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod y Wladfa, ac roedd yn fuddugol chwe gwaith eto: 1949, 1970, 1971, 1977, 1983, a 1987.[2]
Bu farw ar Ddydd Gwener y Groglith, 18 Ebrill 2003.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Hacia los Andes (Rawson: Ediciones el Regional, 1982). Cyfieithiad o Dringo'r Andes (1904) gan Eluned Morgan.
- Edau Gyfrodedd: Detholiad o waith Irma Hughes de Jones (Dinbych: Gwasg Gee, 1989). Golygwyd gan Cathrin Williams.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod", BBC Cymru'r Byd (2003). Adalwyd ar 7 Mai 2019.
- ↑ "Rhestrau o enillwyr", Casglu'r Cadeiriau. Adalwyd ar 7 Mai 2019.