Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)

llenor

Nofelydd a bardd Cymreig oedd Annie Harriet Hughes (1852 - 25 Ebrill 1910), sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol Gwyneth Vaughan. Bu'n awdures boblogaidd yn ei chyfnod ac roedd ei gwaith yn gymeradwy gan feirniaid llenyddol fel Owen M. Edwards, Richard Hughes Williams a T. Gwynn Jones[1]

Annie Harriet Hughes
Gwyneth Vaughan yn 1904
Ganwyd1852 Edit this on Wikidata
Talsarnau Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1910 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantArthur Hughes Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Bu'n is-lywydd An Comunn Gaedhealach yr Alban yn 1903 a rhwng 1893-6 sefydlodd dros 143 cangen o'r British Women's Temperance Association, a bu'n ysgrifennydd mygedol y Welsh Union of Women's Liberal Association am 10 mlynedd. Ar ben hyn i gyd roedd yn un o sefydlwyr Undeb y Ddraig Goch a Chymru Fydd.[2]

Merch o Dalsarnau, Meirionnydd (de Gwynedd bellach) oedd hi. Melinydd oedd ei thad. Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol ond tyfodd i fyny mewn cymdeithas wledig ddiwylliedig a oedd yn nwfn yn "Y Pethe" a darllenodd yn eang. Yn 1876 priododd y meddyg John Hughes Jones; yn nes ymlaen gadawsant y "Jones" allan o'r enw a galw eu hunain yn "Hughes" yn unig. Aethant i fyw i Lundain am gyfnod ac wedyn i Dreherbert ym Morgannwg. Gadawyd Annie i ofalu am eu pedwar plentyn ar ôl marwolaeth ei gŵr yn 1902. Symudodd o Dreherbert i Fangor, Gwynedd, a dechreuodd lenydda yn broffesiynol ar anogaeth ei ffrindiau.

Bu farw Gwyneth ym Mhwllheli. Etifeddwyd ei dawn llenyddol gan ei mab, Arthur Hughes (1878-1965), a ymfudodd i'r Wladfa yn 1911 ac a oedd yn olygydd barddoniaeth.

Gwaith llenyddol golygu

Fe'i cofir yn bennaf am y nofelau O Gorlannau'r Defaid (1905) a Phlant y Gorthrwm (1908), a gyhoeddwyd yn gyfresi yn Y Cymro yn wreiddiol cyn cael eu cyhoeddi fel llyfrau. Lleolir y ddwy nofel yng nghefn gwlad Cymru yng nghanol y 19eg ganrif. Diwygiad 1859 yw pwnc O Gorlannau'r Defaid ac etholiad mawr 1868 a'i effaith ar y werin bobl ym Meirionnydd yw cefndir Plant y Gorthrwm. Ysgrifennodd drydedd nofel, Cysgodau y Blynyddoed Gynt, na chafodd ei gyhoeddi'n nofel yn ystod ei bywyd; roedd phedwaredd, Troad y Rhod, ar ei chanol pan fu farw.

Barddonai hefyd, a chyfranodd sawl cerdd i gylchgronau fel Cymru O.M. Edwards; ysgrifennodd hefyd ambell stori fer a llenyddiaeth eraill, gan gynnwys rhai straeon yn Saesneg.

Mai ei nofelau'n gymharol hir ac yn uchelgeisiol; maent yn neilltuol am y nifer a'r amrywiaeth o gymeriadau benywaidd sydd ynddynt, yn enwedig o'u cymharu â nofelau llawer o'i cyfoedion gwrywaidd. Mae elfennau o ffeministiaeth gynnar yn ei gwaith, yn enwedig Plant y Gorthrwm.

Roedd yn awdures boblogaidd iawn a chyfrwyd ymysg prif nofelwyr ei hoes ei hun. Roedd gan ei chyfoeswyr er enghraifft Richard Hughes Williams a T. Gwynn Jones barch mawr tuag ati; fodd bynnag cymharol ychydig o sylw ysgolheigaidd a gafodd yn ddiweddarch, o bosib oherwydd rhagfarn.[3] Yn yr unfed ganrif ar hugain, cyhoeddwyd Plant y Gorthrwm o'r newydd gan Gwasg Honno; ac fe gyhoeddwyd y nofel honno a Cysgodau y Blynyddoedd Gynt hefyd gan Melin Bapur yn 2024.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Nofel, Baner ac Amserau Cymru, 6 & 13 Chwefror 1915.
  2. Gwefan y Bywgraffiadur Cymreig
  3. Reeves, Rosanne (2014). Dwy Gymraes, Dwy Gymru. Gwasg Prifysgol Cymru