Heddwas o Gymru oedd Arthur Rees Rowlands (14 Mai 19222 Rhagfyr 2012)[1] a ddaeth yn enwog fel "y Plismon Dall" wedi iddo golli ei olwg pan gafodd ei saethu gan leidr ar bont ym Machynlleth ym 1961.[2]. Fe'i ganwyd yn y Bala yn fab i ffermwr.

Arthur Rowlands
Ganwyd14 Mai 1922 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Rhagfyr 2012 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethheddwas Edit this on Wikidata

Ar 2 Awst 1961 roedd Arthur Rowlands ar batrôl yn ardal Pont ar Ddyfi am 3 o'r gloch y bore ar ei ffordd adre o Fachynlleth i Gorris. Daeth o hyd i Robert Boynton, a dywedodd Boynton iddo, "you shouldn’t have come, I'm gonna kill you" cyn saethu gwn siot .410 at Arthur.[3] Daeth plismyn o Scotland Yard i drefnu helfa am Boynton, a daethant o hyd iddo yn pluo cyw iâr ger afon.[2] Bu farw Boynton yn Ysbyty Broadmoor ym 1994 tra'n bwrw dedfryd o garchar am 32 mlynedd.[3]

Wedi iddo wella o'i anafiadau, dychwelodd Arthur Rowlands i weithio ar switsfwrdd Heddlu Gogledd Cymru yng Nghaernarfon,[4] a chafodd hefyd yrfa fel darlledwr gan gyfrannu at raglen Canllaw BBC Radio Cymru.[5] Derbyniodd Fedal George am ddewrder,[6] a chafodd ei urddo'n aelod o Orsedd y Beirdd ym 1980.[4] Bu farw yn ei gartref yng Nghaernarfon yn 2012 yn 90 oed.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Stephens, Meic (28 Ionawr 2013). Arthur Rowlands: Policeman who was awarded the George Medal. The Independent. Adalwyd ar 30 Ionawr 2013.
  2. 2.0 2.1  Un noson yng ngolau'r lleuad. BBC. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Police Federation pays tribute to PC Arthur Rowlands. Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (3 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
  4. 4.0 4.1  Cyn-blismon a gafodd ei ddallu yn marw yn 90 oed. Golwg360 (3 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
  5. 5.0 5.1  Teyrnged i'r 'plismon dewr'. BBC (2 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
  6. (Saesneg) Awarded the George Medal. The London Gazette (2 Chwefror 1962). Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Baines, Enid Wyn. Mae'r Dall yn Gweld: Stori Bywyd Arthur Rowlands (Tŷ ar y Graig, 1983). ISBN 0946502145