Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig
Sefydlwyd Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig (Saesneg: UK Space Agency) yn Ebrill 2010 fel olynydd i'r Ganolfan Ofod Genedlaethol Brydeinig, er mwyn hyrwyddo twf y diwydiant gofod yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi gyfrifoldebau dros gysylltiadau Prydain â'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac ariannu ar gyfer technoleg ac offer gofod, ymhlith eraill. Fe'i lleolir yn Swindon.
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth weithredol, asiantaeth ofod |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Ebrill 2010 |
Rhagflaenydd | British National Space Centre |
Aelod o'r canlynol | International Astronautical Federation, Inter-Agency Space Debris Coordination Committee, Consultative Committee for Space Data Systems |
Pencadlys | Polaris House |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://gov.uk/uksa |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol