Asiantaeth Ofod Ewropeaidd
Mae'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (Ffrangeg: Agence spatiale européenne) (a dalfyrir yn ryngwladol i: ESA), a sefydlwyd ym 1975, yn sefydliad rhynglywodraethol sy'n ymroddedig i fforio'r gofod. Mae ganddi 22 aelod, gweithlu o 2,000 o bobl a chyllid blynyddol o ryw €4.23 biliwn. Lleolir ei phencadlys ym Mharis.[1]
![]() | |
Enghraifft o: | sefydliad rhynglywodraethol, asiantaeth ofod, sefydliad rhyngwladol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 30 Mai 1975 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | European Launcher Development Organisation ![]() |
Yn cynnwys | SMILE ![]() |
Pennaeth y sefydliad | Director General of the European Space Agency ![]() |
Sylfaenydd | Gwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, Gorllewin yr Almaen, yr Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Sweden, y Deyrnas Unedig, Y Swistir ![]() |
Aelod o'r canlynol | Inter-Agency Space Debris Coordination Committee, Consultative Committee for Space Data Systems, Open Geospatial Consortium, Réseaux IP Européens (RIPE) Network Coordination Centre (NCC), DataCite - International Data Citation Initiative e.V., European Open Science Cloud Association, Eiroforum ![]() |
Ffurf gyfreithiol | Q112176659 ![]() |
Pencadlys | Paris ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | https://esa.int ![]() |
![]() |

Mae rhaglen hedfan yr ESA yn cynnwys ehediadau gyda phobol, yn bennaf trwy gymryd rhan yn rhaglen hirdymor yr Orsaf Ofod Ryngwladol, lansio teithiau fforio di-griw i blanedau eraill, comedau a'r Lleuad, arsylwadau o'r Ddaear, gwyddoniaeth, telgyfathrebu, yn ogystal â datblygu maes lawnsio rocedi Canolfan Ofod Guiana ger Kourou, Guiana Ffrengig, a dyluno cerbydau lansio. Prif gerbyd lansio ESA yw'r Ariane 5, sy'n cael ei redeg gan Arianespace gydag ESA yn rhannu cost y lansiadau a datblygu'r cerbyd.
Hanes
golyguEfallai mai'r ysbrydoliaeth pennaf dros sefydlu ESA oedd blaengaredd cynlluniau Sputnik yr Undeb Sofietaidd. Dychrynwyd yr Americanwyr gan y cynllun hwn, ac o fewn ychydig fisoedd daeth dau o brif wyddonwyr Ewrop at ei gilydd, sef Edoardo Amaldi a Pierre Auger, i drafod gweithio ar y cyd a sefydlu asiantaeth Ewropeaidd. Gwahoddwyd wyth gwladwriaeth i'r cyfarfod. Sefydlwyd dwy asiantaeth: ELDO (European Launch Development Organization) ac ESRO (European Space Agency) ar 20 Mawrth 1964. Rhwng 1968 a 1972 lawnsiodd ESRO 7 lloeren.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "ESA Budget for 2013". esa.int. 24 Ionawr 2013.