Am ddefnyddiau eraill, gweler gofod.

Ardaloedd gymharol wag y bydysawd y tu hwnt i atmosfferau cyrff nefol (neu 'selestial') yw'r gofod (Saesneg: space neu outer space).

Yr ardal rhwng arwyneb y Ddaear a'r gofod, llinell Kármán (a ddangosir fel llinell ar uchder o 100 km (62 mi)). Dangosir haenau atmosffer i raddfa, ond nid felly gwrthrychau fel yr Orsaf Ofod Ryngwladol.

Nid yw'r gofod allanol yn gyfan gwbl wag ac yn wir mae'r hen derm Cymraeg 'gwagle' yn gamarweiniol: mae'n fan sy'n cynnwys dwysedd isel o ronynnau, yn bennaf plasma o hydrogen a heliwm yn ogystal ag ymbelydredd electromagnetig, meysydd magnetig, niwtrinos, llwch a phelydrau cosmig. Mae'r tymheredd cyfartalog yn 2.7 kelvins (−270.45 °C; −454.81 °F).[1]

Mae'r plasma rhwng galaethau'n cyfrif am tua hanner y mater baraidd (cyffredin) yn y bydysawd; mae ganddo ddwysedd llai nag un atom hydrogen fesul metr ciwbig a thymheredd o filiynau o kelvins. Mae crynodiadau lleol o'r plasma hwn wedi cwympo i fewn i'w hunain nes creu sêr a galaethau.[1] Dengys astudiaethau fod 90% o'r màs yn y rhan fwyaf o galaethau mewn ffurf anhysbys, a elwir yn "fater tywyll", sy'n rhyngweithio â mater arall trwy ddisgyrchiant ond nid grym electromagnetig.[2][3] Mae sylwadau'n awgrymu bod y rhan fwyaf o'r ynni màs yn y Bydysawd yn egni gwactod mae seryddwyr yn ei labelu "egni tywyll", ond nad ydynt yn deall fawr ddim amdano.

Mae gofod rhyng-galactig yn cymryd y rhan fwyaf o gyfaint y Bydysawd, ond mae galaethau a systemau sêr yn cynnwys bron y cyfan o'r gofod gwag.


Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am y gofod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. 1.0 1.1 Gupta, Anjali; Galeazzi, M.; Ursino, E. (May 2010), "Detection and Characterization of the Warm-Hot Intergalactic Medium", Bulletin of the American Astronomical Society 41: 908, Bibcode 2010AAS...21631808G.
  2. Freedman & Kaufmann 2005, tt. 573, 599–601.
  3. Trimble, V. (1987), "Existence and nature of dark matter in the universe", Annual Review of Astronomy and Astrophysics 25: 425–472, Bibcode 1987ARA&A..25..425T, doi:10.1146/annurev.aa.25.090187.002233.