Asid ffolig

(Ailgyfeiriad oddi wrth Asid Ffolig)

Geiriau eraill ar asid ffolig yw: Fitamin B9, fitamin M neu Ffolasin. Mae'r teulu yma'n hydoddi mewn dŵr ac yn digwydd yn naturiol mewn rhai bwydydd neu dabledi. Daw tarddiad y gair o'r gair Lladin am ddeilen (folium) gan fod dail gwyrdd yn llawn ohono.

Folic acid crystals.jpg
Folic-acid.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolCyfansoddyn cemegol, meddyginiaeth, cyffur hanfodol, folic acids, pteridine Edit this on Wikidata
MathB9 vitamin Edit this on Wikidata
Màs441.14 Uned dalton edit this on wikidata
Fformiwla gemegolC₁₉h₁₉n₇o₆ edit this on wikidata
Enw WHOFolic acid edit this on wikidata
Clefydau i'w trinAnemia megaloblastig, macrocytic anemia edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america a edit this on wikidata
Rhan ofolic acid binding, chemotaxis to folate, folic acid metabolic process, folic acid biosynthetic process, folic acid catabolic process, response to folic acid, cellular response to folic acid, intestinal folate absorption, folate transmembrane transport, folic acid:proton symporter activity, folic acid transmembrane transporter activity, folic acid transport, folate:anion antiporter activity, folate import across plasma membrane, folate import into mitochondrion Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yn yr Unol Daleithiau, mae'r cwmniau bwyd yn ychwanegu asid ffolig mewn grawnfwydydd.

Mae llawer o asid ffolig yn y bwydydd canlynol: sbigoglys, letis, ffa wedi'u sychu, grawnfwydydd, hadau blodau haul ayb. Mae iau (afu) hefyd yn cynnwys llawer ohono, yn ogystal â burum y pobydd, Marmite a Vegemite. Mae creision ŷd a'i debyg yn cynnwys rhwng 25% a 100% o'r hyn sydd ei angen.

Ei hanesGolygu

Yn 1933, darganfu Lucy Willis asid ffolig, pan oedd yn ymchwilio i mewn i anghenion merched beichiog, a cheisio atal anemia. Burum y pobydd ddefnyddiodd hi, gan wedyn, sylweddoli mai'r asid ffolig a oedd yn gwneud y gwaith. Llwyddodd i dynnu'r asid allan o ddail sbigoglys yn 1941. Crewyd asid ffolig artiffisial yn 1946 gan Yellapragada Subbarao.