Fitamin B
Mae fitaminau B yn gategori o fitaminau sy'n chwarae rhan bwysig ym metaboledd celloedd ac yn synthesis celloedd gwaed coch. Maen nhw i gyd yn hydoddi mewn dŵr. Cyfeirir at y gwahanol fathau o fitaminau B yn ôl rhif neu yn ôl enw cemegol, megis B1 = thiamin, B2 = ribofflafin, a B3 = niacin. Mae rhai yn fwy adnabyddus wrth eu henwau nag yn ôl rhif, fel asid pantothenig (B5), biotin (B7), ac asid ffolig (B9).
Math o gyfrwng | dosbarth o endidau cemegol gyda chymwysiadau neu swyddogaethau tebyg |
---|---|
Math | fitamin |
Yn cynnwys | biotin, fitamin B12, asid ffolig, niacin, ribofflafin, thiamin, fitamin B6 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae pob fitamin B naill ai'n gydffactor ar gyfer proses metabolig allweddol neu'n rhagflaenydd i broses o'r fath.
Mae'r fitaminau B yn cael eu rhannu yn deulu o wyth. Dyma aelodau'r teulu:
- Fitamin B1 (thiamin)
- Fitamin B2 (riboflafin)
- Fitamin B3 (niacin, sy'n cynnwys asid nicotinig a nicotinamid)
- Fitamin B5 (asid pantothenig)
- Fitamin B6 (grŵp o gyfansoddion tebyg, sy'n cynnwys pyridocsin, pyridocsal, a pyridocsamin)
- Fitamin B7 (biotin)
- Fitamin B9 (asid ffolig)
- Vitamin B12 (a nifer o cobalaminau; cyanocobalamin mewn ychwanegiadau tabledi fitamin)