Marmite
Mae Marmite yn bast lliw tywyll a gynhyrchir gan y cwmni Seisnig, Marmite Food Extract Company. Sail y past yw rhin burum o'r broses bragu. Mae blas ac arogl cryf Marmite yn enwog ac wedi dod yn idiom a slogan love it or hate it.[1] Mae'r dywediad fod rhywbeth yn Marmite yn ffordd o ddweud fod barn neu wrthrych yn denu barn cryf o blaid ac yn erbyn rhywbeth.
Enghraifft o'r canlynol | brand bwyd |
---|---|
Math | past taenadwy |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Rhan o | coginio Lloegr, British cuisine |
Dechrau/Sefydlu | 1902 |
Yn cynnwys | burum, yeast extract |
Gwneuthurwr | Unilever |
Enw brodorol | Marmite |
Gwefan | https://marmite.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i fytir gan fwyaf ar ffurf brechdan.
Hanes
golyguAr ddiwedd 19g, darganfu'r gwyddonydd Almaenig, Justus von Liebig, drwy hap y gellid crynodi, ac yna poteli a bwyta'r sgil-gynhyrchion burum wrth fragu.[2]
Yn 1902 sefydlwyd y cwmni Marmite Food Extract Company, sy'n defnyddio burum cwmni cwrw Bass, yn Burton upon Trent (Swydd Stafford, Lloegr) - bragwyr oedd wedi bod yn y dref ers 1777.[1]
Roedd y rysáit wreiddiol yn cynnwys halen, helogan a pherlysiau. Yn dilyn hynny, ehangwyd y rysáit i gynnwys asid ffolig, fitamin B12, thiamin a riboflafin mewn canran uchel, gan wneud i chi deiet iach maeth.[2]
Yn y blynyddoedd ar ôl sefydlu'r Cwmni Echdynnu Bwyd Marmite, ymddangosodd y cynnyrch a daeth yn boblogaidd yn Seland Newydd ac Awstralia wedi melysu â charamel. Ymddangosodd hefyd yn Unol Daleithiau America o dan enw Vegex ac yn y Swistir dan yr enw Cenovis.[1]
Yr Enw
golyguDaw enw'r cynnyrch o'r gair Ffrangeg am y math o lestr a ddefnyddwyd i ddal casserole neu gawl o'r enw marmite (ynganer 'marmît'). Ym mhorthladd Dieppe yn Normandi ceir cawl pysgod o'r enw Marmite Dieppoise. Er yr 1920 mae'r label coch a melyn wedi cynnwys darlun o jar 'marmite' arno.[2] Yn wreiddiol gwerthwyd Marmite o botiau mawr pridd ac yna yn yr 1920au dechreuwyd eu werthu mewn potiau gwydr llai ond bod y jariau hynny yn parhau i fod yr un siâp a ffurf â'r potiau 'marmite' Ffrengig gwreiddiol.
Priodweddau maeth
golyguMae'r bwyd margit yn fwyd llysieuog er gwaethaf blas y gallai fod yn edrych fel cig.[1] Gan ei fod yn isel mewn braster a nodweddion caloriffig ac yn gyfoethog mewn asid ffolig, ystyrir fitamin B12, thiamin a riboflavin yn fwyd iach.[1][2]
Amrywiol
golyguYn dilyn llwyddiant slogan hysbysebu ""Love it or Hate it" yn Hydref 1996 daeth yn arferol i ddefnyddio 'marmite' fel enghraifft o beth neu farn oedd yn ennyn teimladau cryfion o blaid neu yn erbyn. Ar 22 Ebrill 2010, bygythiodd y cwmni Unilever (cwmni cynhyrchu Marmite) achos llys yn erbyn plaid asgell dde y British National Party am ddefnyddio jar o Marmite gyda'r slogan "love it or hate it" yn eu hysbysebion teledu.[3]
Gwerthir Marmite yn Awstralia dan yr enw "Our Mate". Yn Seland Newydd defnyddir yr enw "NZ-Mite".