Sbigoglys
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Amaranthaceae
Genws: Spinacia
Rhywogaeth: S. oleracea
Enw deuenwol
Spinacia oleraceaa
L.

Planhigyn sy'n blodeuo ydy Sbigoglys neu Pigoglys (Enw Lladin:Spinacia oleracea; Saesneg: Spinach; ar lafar yn Gymraeg: Sbinaits) yn nheulu Amaranthaceae sy'n gynhenid i ganolbarth a de Asia. Mae'n blanhigyn unflwyddiad, ac yn llai aml, eilflwyddiad sy'n tyfu hyd at 30 centimetr o daldra. Gall oroesi dros y gaeaf mewn ardaloedd tymherus.

Mae'r dail yn tyfu bob yn ail, siap hirgrwn trionglaidd ac an yn amrywio mewn maint; rhwng 2–30 cm o hyd a 1–15 cm o led gyda'r dail mwyaf ar fôn y planhigyn a dail llai tuag at y blagur blodeuo. Mae'r blodau yn anamlwg disylw, melyn-wyrdd tua 3–4 mm yn niamedr sy'n aeddfedu i greu clystyrau 5-10mm o frwythau bach sych, talpiog a chaled sy'n cynnwys nifer o hadau.

Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato