Fitamin o deulu fitamin B yw asid ffolig neu fitamin B9 (weithiau hefyd fitamin M a ffolasin). Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Fel gweddill teulu fitamin B gall asid ffolig hydoddi mewn dŵr. Mae'r gair "ffolig" yn tarddu o'r gair Lladin am ddeilen (folium) gan fod dail gwyrdd yn llawn ohono.

Asid ffolig
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
MathB9 vitamin, pteridine, folic acids Edit this on Wikidata
Màs441.14 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₉h₁₉n₇o₆ edit this on wikidata
Enw WHOFolic acid edit this on wikidata
Clefydau i'w trinAnemia megaloblastig, macrocytic anemia edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america a edit this on wikidata
Rhan ofolic acid binding, chemotaxis to folate, folic acid metabolic process, folic acid biosynthetic process, folic acid catabolic process, response to folic acid, cellular response to folic acid, intestinal folate absorption, folate transmembrane transport, folic acid:proton symporter activity, folic acid transmembrane transporter activity, folic acid transport, folate:anion antiporter activity, folate import across plasma membrane, folate import into mitochondrion Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae llawer o asid ffolig yn y bwydydd canlynol: sbigoglys, letis, ffa wedi'u sychu, grawnfwydydd, a hadau (e.e. blodau haul). Mae iau (afu) hefyd yn cynnwys llawer ohono, yn ogystal â burum y pobydd, Marmite a Vegemite. Mae creision ŷd a'i debyg yn cynnwys rhwng 25% a 100% o'r hyn sydd ei angen.

Hanes golygu

Darganfuwyd asid ffolig gan Lucy Wills yn 1933, pan oedd yn ymchwilio i mewn i anghenion merched beichiog, a cheisio atal anemia. Burum y pobydd ddefnyddiodd hi, gan wedyn, sylweddoli mai'r asid ffolig a oedd yn gwneud y gwaith. Llwyddodd i dynnu'r asid allan o ddail sbigoglys yn 1941. Crewyd asid ffolig artiffisial yn 1946 gan Yellapragada Subbarao.

 
Yn yr Unol Daleithiau, mae'r cwmniau bwyd yn ychwanegu asid ffolig mewn grawnfwydydd.