St Petersburg
Dinas ar lan y Môr Baltig yng ngogledd-orllewin Rwsia yw St Petersburg (Rwsieg Санкт–Петербург / Sankt-Peterbúrg; Petrograd / Петроград 1914–24, Leningrad / Ленинград 1924–91). Sefydlwyd gan Pedr Fawr. Hi oedd prifddinas Rwsia yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hi yw ail ddinas fwyaf Rwsia heddiw ac yn 2002 roedd dros 4,700,000 o bobl yn byw yno.
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas ffederal o fewn Rwsia, dinas fawr, ail ddinas fwyaf, tref/dinas, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Sant Pedr ![]() |
| |
Poblogaeth |
5,351,935 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Anthem of Saint Petersburg ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Alexander Beglov ![]() |
Cylchfa amser |
Amser Moscfa, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Turku, Gdańsk, Aqaba, Alexandria, Almaty, Antwerp, Baku, Bangkok, Barcelona, Warsaw, Bethlehem, La Habana, Hamburg, Graz, Daugavpils, Dresden, Dushanbe, Yerevan, Zagreb, Isfahan, Québec, Tref y Penrhyn, Kiev, Colombo, Kotka, Košice, Lyon, Los Angeles, Lviv, Manceinion, Maribor, City of Melbourne, Mikkeli, Minsk, Montevideo, Mumbai, Mykolaiv, Odessa, Aarhus, Osaka, Osh, Kyrgyzstan, Piraeus, Plovdiv, Prag, Busan, Rio de Janeiro, Riga, Rotterdam, St. Petersburg, Santiago de Cuba, Sevastopol, Istanbul, Bwrdeistref Stockholm, Tallinn, Tampere, Tbilisi, Daegu, Haifa, Khartoum, Kharkiv, Helsinki, Dinas Ho Chi Minh, Chengdu, Shanghai, Caeredin, Fenis, Kraków, Haiphong, Cawnas, Constanța, Qingdao, Nursultan, Johannesburg, Beijing, Mar del Plata, Buenos Aires, Adana, Varna, Bordeaux, Le Havre, Milan, Porto Alegre, Reykjavík, Torino, Nesebar, Vilnius, Sofia, Oslo, Tehran, Casablanca, Thessaloníci, Debrecen, Reinickendorf, Sousse, Rishon LeZion, Jeddah, Wenzhou, Krasnoyarsk, Budapest, Genova, Limassol, Bishkek, Xi'an, Nampho, Incheon, Manama, Guadalajara, Ulan Bator, Stavanger, Bizerte, Tashkent, Nice, Paris, Bwrdeistref Göteborg, Addis Ababa ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol ![]() |
Sir |
Rwsia ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
1,439 ±1 km² ![]() |
Uwch y môr |
3 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Neva, Gwlff y Ffindir, Camlas Griboyedov, Camlas Obvodny, Afon Okhta, Afon Bolshaya Nevka, Ekateringofka, Kronverksky Strait, Camlas Krjukov, Afon Malaya Neva, Afon Bolshaya Neva, Afon Slavyanka, Krestovka, Afon Okkervil, Afon Fontanka, Afon Moyka, Afon Srednyaya Nevka ![]() |
Yn ffinio gyda |
Oblast Leningrad, Gatchinsky District, Vsevolozhsky District, Vyborgsky District, Lomonosovsky District, Tosnensky District, Kirishsky District ![]() |
Cyfesurynnau |
59.95°N 30.32°E ![]() |
Cod post |
199406, 190000 ![]() |
RU-SPE ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cynulliad Deddfwriaethol St Petersburg ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Governor of Saint Petersburg ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Alexander Beglov ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan |
Pedr I ![]() |
HanesGolygu
Sefydlwyd y ddinas fel "ffenestr ar y Gorllewin" gan Pedr Fawr ar 16 / 27 Mai 1703, pan gosodwyd sylfaen Caer Pedr a Phawl ganddo. Ddechrau'r un mis, roedd y Rwsiaid wedi cipio'r ardal (Ingria) a chaer Nyen (hefyd Nyenschanz) oddi wrth Sweden. Rhoddodd yr enw "St Petersburg" arni ar ôl enw ei nawddsant, yr apostol Sant Pedr. Yn y cyfnod hwnnw ceir hefyd enw Iseldireg ar y ddinas, Sankt Piter Bourgh neu St Petersburch, gan fod Pedr Fawr yn byw ac yn astudio yn Amsterdam a Zaandam am beth amser ym 1697. Sefydlwyd y dref ger olion y gaer Swedaidd ychydig nes at aber Afon Neva.
Adeiladwyd y dref yn ystod rhyfel a'r adeilad cyntaf i'w godi oedd y gaer (Caer Pedr a Phawl) a'r ddinas yn cael ei hadeiladu o'i gwmpas gan beirianyddion o'r Almaen a wahoddwyd i Rwsia gan Pedr. Sefydlwyd y ddinas fel prifddinas newydd Rwsia. Gan ei bod ar arfordir y Môr Baltig roedd hi'n gyswllt pwysig i wledydd y gorllewin yn ogystal â bod yn borthladd milwrol pwysig iawn gyda chaer Kronstadt yn ei hamddiffyn.
Daeth elît y wlad i fyw i St Petersburg ac erbyn heddiw mae llawer o'u plasdai yn y ddinas. Y mwyaf o'r rhain oedd Palas y Gaeaf a adeiladwyd gan Elisabeth o Rwsia rhwng 1754 a 1762. Lleolir Amgueddfa Genedlaethol yr Hermitage yno heddiw.
Rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861 ac o ganlyniad daeth llawer o bobl tlawd i'r ddinas. Ond roedd diwydiant yn llwyddiannus hefyd. Yn ogystal â hynny, roedd y ddinas yn ganolfan ddiwylliannol y wlad, gyda llawer o arlunwyr ac awduron yn byw yno. Bu syniadau sosialaidd yn boblogaidd yn y ddinas ymysg deallusion ac yn St Petersburg y dechreuodd Chwyldro Rwsia 1905.
Ar 18 / 31 Awst 1914 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf newidiodd tsar Nicolas II enw'r ddinas i "Petrograd" am fod "St Petersburg" yn swnio'n rhy Almaeneg.
Ym 1917 dechreuodd Chwyldro Rwsia, ac o ganlyniad daeth rheolaeth y Tsar i ben a Gwrthryfel Rwsia yn dechrau. Roedd hinsawdd gwleidyddol y ddinas yn ansefydlog iawn ac felly symudodd Lenin, arweinwr y Bolsieficiaid y brifddinas o Petrograd i Moscfa. Ers hynny Moscfa yw prifddinas Rwsia. Ar 26 Ionawr 1924, tair blynedd ar ôl i Lenin farw, ailenwyd y ddinas unwaith eto i "Leningrad".
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwarchaewyd Leningrad o 8 Medi 1941 tan 27 Ionawr 1944 gan fyddin yr Almaen. Yn ystod yr adeg hon daeth nwyddau dros iâ Llyn Ladoga am gyfnod, ond bu farw 80,000 o'r 3,000,000 o drigolion yn y ddinas o newyn.
Newidwyd enw'r ddinas i St Petersburg, ei henw gwreiddiol, ar 6 Medi 1991 ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd.
Enwau'r ddinasGolygu
Enw | O | Hyd |
St Petersburg | 16 / 27 Mai 1703 | 18 / 31 Awst 1914 |
Petrograd | 18 / 31 Awst 1914 | 26 Ionawr 1924 |
Leningrad | 26 Ionawr 1924 | 6 Medi 1991 |
St Petersburg | 6 Medi 1991 | heddiw |
EnwogionGolygu
- Alexander Borodin, cyfansoddwr (1833-1887)