Mae Asnath (Hebraeg: אָסְנַת‎) yn fenyw ceir sôn amdani yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament fel gwraig Joseff yn yr Aifft. Mae llawer o'r hanesion amdani yn dod o ysgrifau apocryffaidd ac anghanonaidd.

Asnath
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
TadSichem, Potipherah Edit this on Wikidata
MamGwraig Potiffar, Dina Edit this on Wikidata
PriodJoseff Edit this on Wikidata
PlantManasse, Effraim Edit this on Wikidata

Yr enw golygu

Credir bod ei henw yn deillio o air mewn Eiffteg hynafol a oedd yn golygu "perthyn i Nath". Roedd Nath yn dduwies yr Aifft.[1]

Mae Asnath, Asenath neu Osnat yn parhau i fod yn enw cyffredin ar ferched yn Israel.

Hanes golygu

Mae'r unig gyfeiriadau at Asnath yn y Beibl i'w cael mewn tri adnod yn Llyfr Geneis. Mae'r adnodau yn adrodd ei bod hi'n hi'n ferch i Potiffera offeiriad On a rhoddwyd i Joseff i fod yn wraig iddo gan Pharo,[2] a bod dau fab wedi eu geni o'r briodas – Manasse ac Effraim.[3] Ceir adroddiad tebyg yn Llyfr y Jiwbilïau. Mae Llyfr y Jiwbilïau yn destun sy'n cael ei gyfrif yn ganonaidd gan Eglwys Uniongred Ethiopia ond yn anghanonaidd gan bob enwad arall. Dydy Genesis na Llyfr y Jiwbilïau ddim yn egluro os oedd Potiffera ei thad yr un dyn a Potiffar distain yr Aifft y cyhuddodd ei wraig Joseff ar gam o geisio ei threisio, ond tybia'r sylwebwyr anghydffurfiol nad ydynt.[4]

Ceir cyfeiriadau at Asnath hefyd yn y Midrash, sy'n astudiaeth destunol o'r Talmud ac yn Targum Ymhongar Jonathan [5] sy'n gyfieithiad o'r Tora gyda nodiadau o eglurhad. Yn y ddau destun dywedir bod Asnath yn ferch i Dina, chwaer Joseff, a Sichem, a anwyd o undeb anghyfreithlon, a ddisgrifir fel rhyw cyn briodasol neu drais rhywiol, yn dibynnu ar y naratif.

Mae cyhoeddiad apocryffaidd diweddarach, a ysgrifennwyd mewn Groeg, y credir ei fod yn ddogfen Gristnogol, o'r enw Joseff ac Asnath, yn manylu ar eu perthynas.[6] Ynddo ceir disgrifiad o Joseff yn gweld Asnath mewn breuddwyd yn cael rhodd o fêl gan angel, a thrwy hynny yn troi at Dduw Israel. Mae'n syrthio mewn cariad efo merch ei freuddwyd yn chwilio am dani ac yn ei phriodi. Wedi i Asnath priodi Joseff, y mae ei frodyr Dan a Gad yn cynllwynio i'w ladd ar ran mab Pharo, sydd am i Asnath fod yn wraig iddo. Mae eu hymdrechion yn cael eu rhwystro gan Benjamin a Lefi. Yn ystod yr ymosodiad, mae Benjamin yn taflu careg at ben mab Pharo ac yn ei glwyfo’n angheuol. Mae'r brodyr eraill yn lladd miloedd o ddynion â chleddyfau. Mae Asnath, yn gweddïo ar Dduw sy’n troi cleddyfau ei hymosodwyr yn llwch. Mae Gad a Dan yn cael eu hachub gan Asnath rhag cael eu lladd gan ddial brodyr eraill Joseff; mae hi'n ceryddu ei brodyr yng nghyfraith gan eu cynghori i beidio ag ymateb i ddrygioni gyda mwy o ddrygioni.[6]

Ar ôl colli ei unig fab, mae Pharo, ar ôl marw, yn gadael ei deyrnas i Joseff, sy'n rheoli am 48 mlynedd.

Cyfeiriadau golygu

Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net

Gweler hefyd golygu

Rhestr o fenywod y Beibl