Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia

Mudiad cenedlaethol yng Nghatalwnia ydy Assemblea Nacional Catalana (talfyriad: ANC; Cymraeg: Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia); roedd ganddo dros 80,000 o aelodau (40,000 ohonynt yn talu) yn 2015.[1] Rhwng ei ffurfio yn 2011 a Mai 2015 ei Lywydd oedd Carmen Forcadell cyn trosglwyddo'r awennau i Jordi Sànchez. Mae'r ANC yn diffinio'i hun fel mudiad democrataidd, poblogaidd ac unol.[2]

Assemblea Nacional Catalana
Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
MathMudiad
Arweinyddiaeth
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol CatalwniaJordi Sànchez
ers 11 Ebrill 2011
Man cyfarfod
Carrer de la Marina, 315 08025, Barcelona
Gwefan
http://assemblea.cat/
Gwrthydystiad cyhoeddus o 8,000 o ganhwyllau - a drefnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Un o'i ymgyrchoedd cyntaf oedd gwrthdystiad enfawr ar 11 Medi 2012 yn Barcelona, pan ddaeth 1.5 miliwn o bobl at ei gilydd i alw am annibyniaeth i Gatalwnia. Dyma'r brotest fwyaf a welwyd yng Nghatalwnia (hyd 2015). Ar 8 Mehefin y flwyddyn dilynol ail-etholwyd Carme Forcadell yn Llywydd. Rhennir gwaith y mudiad rhwng deg siaptr neu ranbarth, er mwyn ysgogi gweithgareddau lleol.

Rhai gwrthdystiadau a drefnwyd gan yr ANC

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://assemblea.cat; adalwyd Awst 2015
  2. http://www.ccma.cat; adalwyd Awst 2015
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: