Clymblaid wleidyddol yng Nghatalwnia ydy Junts pêl Sí (neu (JxSí); Cymraeg: Annibyniaeth Gyda'n Gilydd; Saesneg: 'Together for Yes') a ffurfiwyd yn unswydd i ymladd dros annibyniaeth i Gatalonia yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia a gynhelir ar 27 Medi 2015.

'Ie' Gyda'n Gilydd
Junts pel Sí
ArweinyddRaül Romeva, Carme Forcadell, Muriel Casals, Artur Mas, Oriol Junqueras
Sefydlwyd15 Gorffennaf 2015 (cyhoeddwyd)
20 Gorffennaf 2015 (yn swyddogol)
Unwyd gydaCDC
ERC
DC
MES
RI
Rhestr o idiolegauAnnibyniaeth i Gatalwnia
Gwefan
juntspelsi.cat

Mae'r JxSí yn gyfuniad o sawl plaid: Convergència Democràtica de Catalunya (CDC), Esquerra Republicana de Catalunya (ERC), Demòcrates de Catalunya, Moviment d'Esquerres, Avancem a Reagrupament Independentista.[1][2]

Cefnogir y clymblaid hwn hefyd gan gyrff fel Assemblea Nacional Catalana (Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia neu'r 'ANC'), Òmnium Cultural a Súmate, a chyrff gwleidyddol fel y Partit Socialista d'Alliberament Nacional (sef y 'PSAN'), a'r Candidatura d'Unitat Popular - Crida Constituent.

Lansiwyd y mudiad drwy gynhadledd yn yr awyr agored ar 20 Gorffennaf 2015.

Cyflwyno cynrychiolwyr y blaid newydd i'r dorf, 20 Gorffennaf 2015:

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. ""Os cawn fwyafrif yna bydd Llywodraeth Catalonia'n cyhoeddi cychwyn y broses o Annibyniaeth," cyhoeddodd Romeva". Cyrchwyd 2015-07-20.
  2. ACN; adalwyd Gorffennaf 2015.

Dolenni allanol golygu