Atherton, Manceinion Fwyaf

tref ym Manceinion Fwyaf

Tref ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Atherton.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Wigan. Saif 5 milltir (8.0 km) i'r dwyrain o Wigan, 2 filltir (3.2 km) i'r gogledd o Leigh, a 10.7 milltir (17.2 km) i'r gogledd-orllewin o Fanceinion.

Atherton
Mathtref, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeisdref Fetropolitan Wigan
Daearyddiaeth
SirManceinion Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaLittle Hulton Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.523°N 2.495°W Edit this on Wikidata
Cod OSSD672030 Edit this on Wikidata
Cod postM46 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Atherton boblogaeth o 70,542.[2]

O'r 14g roedd Atherton yn gysylltiedig â chloddio glo a chynhyrchu hoelion. Erbyn dechrau'r 20g roedd y dref yn ganolbwynt ardal o lofeydd, melinau cotwm a gwaith haearn. Caeodd ei phwll glo dwfn olaf ym 1966, a chaeodd y melinau cotwm olaf ym 1999. Er bod gan y dref rywfaint o ddiwydiant gweithgynhyrchu sylweddol o hyd, heddiw mae'n fwy adnabyddus fel canolfan adwerthu.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 7 Ionawr 2020
  2. City Population; adalwyd 24 Awst 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fanceinion Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato