Manceinion Fwyaf

swydd seremonïol yn Lloegr

Sir fetropolitan a sir seremonïol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Manceinion Fwyaf (hefyd Manceinion Fawr) (Saesneg: Greater Manchester).

Manceinion Fwyaf
Mathsiroedd seremonïol Lloegr, sir fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd-orllewin Lloegr
Poblogaeth2,867,800 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAndrew Burnham Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPeine Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,275.9821 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Gaer, Glannau Merswy, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Derby, Gorllewin Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.5025°N 2.31°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE11000001 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Greater Manchester Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAndrew Burnham Edit this on Wikidata
Map

Roedd Manceinion Fwyaf yn un o chwe sir fetropolitan a grëwyd yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rhennir yr holl siroedd hyn yn fwrdeistrefi metropolitan. Yn wreiddiol roedd y siroedd a'r bwrdeistrefi yn gweithredu mewn strwythur dwy haen o lywodraeth leol, ond ar ôl diddymwyd cynghorau y siroedd metropolitan gan Deddf Llywodraeth Leol 1985 daeth y bwrdeistrefi metropolitan yn awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir i bob pwrpas.

Fe'i dynodwyd yn ddinas-ranbarth ar 1 Ebrill 2011.

Mae Manceinion Fwyaf yn cwmpasu un o'r ardaloedd metropolitan mwyaf yn y Deyrnas Unedig sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddinas Manceinion ei hun. Fe'i ffurfiwyd o rannau o siroedd hanesyddol Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaer a Swydd Efrog. Mae'n cynnwys deg bwrdeistref fetropolitan: Bolton, Bury, Oldham, Rochdale, Stockport, Tameside, Trafford, Wigan, a dinasoedd Manceinion a Salford.

Mae gan y sir arwynebedd o 1,276 km², gyda 2,812,569 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1]

Lleoliad Manceinion Fwyaf yn Lloegr

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth golygu

Ardaloedd awdurdod lleol golygu

Rhennir y sir yn ddeg bwrdeistref fetropolitan:

 
  1. Dinas Manceinion
  2. Bwrdeistref Fetropolitan Stockport
  3. Bwrdeistref Fetropolitan Tameside
  4. Bwrdeistref Fetropolitan Oldham
  5. Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale
  6. Bwrdeistref Fetropolitan Bury
  7. Bwrdeistref Fetropolitan Bolton
  8. Bwrdeistref Fetropolitan Wigan
  9. Dinas Salford
  10. Bwrdeistref Fetropolitan Trafford

Etholaethau seneddol golygu

Rhennir y sir yn 27 etholaeth seneddol yn San Steffan:

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2020