Athraw (Llanidloes)
cyfnodolyn
Cylchgrawn eithaf cynnar o 19g ar gyfer Ieuenctid Cymru Archifwyd 2017-10-22 yn y Peiriant Wayback oedd Yr Athraw,[1] sef, o Ionawr 1836 hyd at 1844, ac a olygwyd gan Humphrey Gwalchmai, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Roedd yn cynnwys cyfansoddiadau o'r Ysgol Sabbothol, llenyddiaeth, barddoniaeth, hanesyddiaeth, duwinyddiaeth a thestunau amrywiol eraill. Argraffwyd ar ran y cyhoeddwr yn Llanidloes gan J. M. Jones, neu yng Nghroesoswallt.
Bu cylchgronau tebyg iddo, dan yr un enw, a gyhoeddwyd gan eraill oeddent hefyd yn gwasanaethu'r Ysgolion Sabbothol[dolen farw] trwy Gymru. Dyma rai enghreifftiau;
- Athraw i Blentyn (Llanrwst), golygwyd gan John Pritchard ar gyfer Ysgolion Sul y Bedyddwyr, 1827–1852
- Yr Athraw (Castell Nedd), golygwyd gan H. W. Hughes ar gyfer gwasanaeth yr Ysgolion Sabbathol, 1842
- Yr Athraw at Wasanaeth yr Ysgolion Sabbathol (Llangollen), ac argraffwyd gan W. Williams, 1853–1910
- Yr Athraw (Llanrwst), ar gyfer yr Ysgolion Sabbathol, ac argraffwyd gan J. Jones, 1865
- Yr Athraw (Aberystwyth), golygwyd gan William Thomas (Gwilym Marles), ac argraffwyd gan D. Jenkins ar gyfer Ysgolion Sul yr Undodiaid, o 1865-1867
Cyfeiriadau
golygu- Yr Agoriad: neu, Y Proffwydoliaethau am Grist i'r Ieuenctid eu Dysgu yn yr Ysgol Sabbothol (1833), William Rowlands (Merthyr)
- Canmlwyddiant Ysgol Sabbothol Cymru (1885), Thomas Levi (Llundain)
- Can'mlwyddiant yr ysgol Sabbothol yn Nghymru (1886), David Charles Edwards, 2il Argr. (Bala)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yr Athraw". Cylchgronau Cymru (LlGC).