Agor y brif ddewislen

AmaethyddiaethGolygu

Roedd newidiadau ym myd amaethyddiaeth yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, yn arbennig gyda dechrau cau'r tiroedd comin. Erbyn y 19g roedd y tirfeddianwyr yn codi rhenti mwy ar eu tenantiaid, ac roedd gwasgfa ar y ffermwyr oedd yn berchen eu tir i werthu i'r tirfeddianwyr mawr. Roedd cau'r tir comin yn amddifadu'r ffermwyr o dir pori hanfodol. Mewn gair yr oedd tlodi dybryd yng nghefn gwlad, a hynny pan oedd yna gynnydd yn y boblogaeth.

DiwydiantGolygu

 
Agorwyd Pont y Borth ar Afon Menai yn 1826 (plât Tsieineaidd o'r 1840au)

Yn y 19g roedd y Chwyldro Diwydiannol ar gynnydd a thirwedd Cymru'n newid. Roedd gwaith ar gael mewn trefi fel Y Bers a Brymbo yn y Gogledd-ddwyrain ac yng nghymoedd a threfi De Cymru. Roedd angen cynhyrchu haearn i adeiladu'r peiriannau newydd oedd yn cael eu hadeiladu. Roedd gan Gymru ddigon o haearn a glo hefyd i'r ffwrneisi i weithio'r haearn hwnnw. Felly roedd poblogaeth Cymru ar gerdded o'r ardaloedd gwledig i'r trefi diwydiannol fel Merthyr Tudful a'r Rhondda a oedd yn tyfu yn gyflym. Yn y gogledd agorwyd nifer o chwareli llechi ac ithfaen, mawr a bychain, a thyfodd canolfannau fel Bethesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog yn drefi prysur a ddeuai i chwarae rhan bwysig yn hanes economaidd a diwylliannol y genedl.

Fel bod y bobl yn gallu tramwyo ac i gludo'r glo a'r haearn roedd angen adeiladu ffyrdd, camlesi a rheilffyrdd.

Iaith a diwylliantGolygu

Y 19g oedd canrif fawr y wasg yng Nghymru. Cyhoeddwyd nifer fawr o gylchgronau a phapurau newydd a daeth mwy o lyfrau Cymraeg allan nag erioed.

Rhai uchafbwyntiauGolygu