Rhedynen Fair
genws o blanhigion
(Ailgyfeiriad o Athyrium filix-femina)
Athyrium | |
---|---|
Athyrium filix-femina | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pteridophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Polypodiales |
Teulu: | Athyriaceae |
Genws: | Athyrium Roth |
Fel y dengys yr enw, math o redyn yw Rhedynen Fair, (enw Lladin: Athyrium filix-femina; Saesneg: Lady Fern). Ceir oddeutu 180 math gwahanol o'r genws hwn, sef Athyrium. Mae'r Athyrium yn perthyn i'r teulu a elwir yn Athyriaceae. Mae larfa'r pryfyn Lepidoptera'n hoff iawn o fwyta'i ddail.
Mae'n ffurfio clystrau mawr mewn coetiroedd llaith, ar gloddiau a llethrau ac mae'n eitha cyffredin yng ngwledydd Prydain. Gall dyfu hyd at 1.5 m. Gwyrdd golau yw ei liw, ac mae'r dail wedi'u rhannu fel pluen ddwywaith. Aeddfeda'r sborangia yn yr hydref.
Gwahanol fathau
golyguCyfeiriadau
golygu- Llyfr Natur Iolo | Paul Sterry | Addasiad gan Iolo Williams a Bethan Wyn Jones | Gwasg Carreg Galch | 12/9/2012 | Cymraeg