Niwclews atomig

Rhan canol a dwys o'r atom ydy'r niwclews atomig (neu'r cnewyllyn atomig) ac sy'n cynnwys protonau a niwtronau. Bron y gellir dweud fod holl fas yr atom yn y niwclews hwn, gydag ychydig bychan iawn o fas yn dod o'r electronau sy'n cylchdroi o'i gwmpas. Cafodd ei ddarganfod yn 1911 fel canlyniad i waith Ernest Rutherford yn dadansoddi arbrawf a wnaeth ef gyda chymorth Hans Geiger ac Ernest Marsden cyn hynny: yn 1909.

Nucleus drawing.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmath o ronyn cwantwm Edit this on Wikidata
Mathcyflwr rhwym, gronyn wedi'i wefru, matter composed of quarks Edit this on Wikidata
Rhan oatom Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnucleon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darluniad rhannol gywir o atom heliwm. Mae'r protonau'n goch a'r niwtronau'n las. Mewn gwirionedd mae'r niwclews yn sffêr cymesurol.

Mae diamedr y niwclews yn amrywio yn ei faint o 1.6 fm (10−15 m) (ar gyfer proton o hydrogen ysgafn) i tua 15 fm (ar gyfer yr atomau trymaf megis wraniwm). Mae'r meintiau'n lawer llai na maint cyfan yr atom, o gymhareb o 23,000 (wraniwm) i tua 145,000 (hydrogen). Mae bron holl fàs yr atom yn cael ei greu gan brotonau a niwtronau yn y niwclews, gyda chyfraniad bach iawn gan yr electronau sy'n ei gylchu.

GeirdarddiadGolygu

Bathwyd y term "niwclews" sy'n golygu "cnewyllyn cneuen" yn 1704. Ym 1844, defnyddiodd Michael Faraday y term i gyfeirio at "pwynt canolog yr atom." Cynigwyd yr ystyr gyfoes am un atomig gan Ernest Rutherford ym 1912.[1] Ni fabwysiadwyd y term "niwclews" i theori atomig yn syth, er enghraifft ym 1916, fe ddywedodd Gilbert N. Lewis yn ei erthygl enwog The Atom and the Molecule[2], fod "yr atom wedi'i gyfansoddi o gnewyllyn ac atom allanol neu blisgyn".

CyfeiriadauGolygu

  1. Nucleus – Online Etymology Dictionary
  2. "'The Atom and the Molecule". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-18. Cyrchwyd 2008-05-22.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg niwclear. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.