Boeotia
Roedd Boeotia, (Groeg: Βοιωτία), hefyd Beotia, neu Bœotia yn diriogaeth yng Ngroeg yr Henfyd ac yn awr yn enw Nomos (sir) yn yr un ardal.
![]() | |
Math | nomau Groeg, regional unit of Greece ![]() |
---|---|
Prifddinas | Livadeia ![]() |
Poblogaeth | 130,768, 109,293, 115,774 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Central Greece Region ![]() |
Gwlad | Gwlad Groeg ![]() |
Arwynebedd | 2,952 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 38.44°N 22.88°E, 38.4°N 23.1°E ![]() |
Cod post | 32x xx 190 12 ![]() |
GR-03 ![]() | |
![]() | |
Mae Boeotia i'r gogledd o ran ddwyreiniol Gwlff Corinth. Yn y de mae'n ffinio ar Attica a Megaris, yn y gogledd ar Locris Opuntiaidd a Chulfor Euripus, ac yn y gorllewin ar Phocis. Ynghanol Boeotia mae Llyn Copais.
Ceir llawer o sôn am Boeotia ym mytholeg Roeg. Yn y cyfnod hanesyddol roedd nifer o ddinasoedd pwysig yma, yn enwedig Thebai, y ddinas mwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Dywedid mai Graia (Γραία) oedd y ddinas hynaf yng Ngroeg. Dinasoedd eraill yma oedd Orchomenus, Plataea, a Thespiae.