Grŵp o ynysoedd yng Ngwlad Groeg yw'r Cyclades (Groeg: Κυκλάδες) neu Ynysoedd Cyclades. Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Attica ar dir mawr Groeg ac ynys Euboea ym Môr Aegea yn nwyrain y Môr Canoldir. Maen nhw hanner ffordd fwy neu lai rhwng tir mawr Gwlad Groeg, ynys Crete ac arfordir de-orllewin Twrci. Mae'r ynysoedd yn ffurfio cylch bron o gwmpas ynys Delos. Ceir tua 30 o ynysoedd o faint amrywiol yn y grŵp (heb gyfrif y mân ynysoedd niferus). Y ganolfan weinyddol yw Ermoupolis ar ynys Siros. Mae rhai o ynysoedd deheuol y Sporades yn cael eu cyfrif yn rhan o nome (uned weinyddol) y Cyclades hefyd. Mae tua 100,000 o bobl yn byw yn y nome.

Cyclades
Mathynysfor Edit this on Wikidata
LL-Q188 (deu)-Sebastian Wallroth-Kykladen.wav Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Aegeaidd Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,572 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,008 metr, 233 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Aegeaidd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMôr Aegeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37°N 25.1667°E Edit this on Wikidata
Cod post840–849 Edit this on Wikidata
GR-82 Edit this on Wikidata
Map
Y Cyclades

Ynysoedd y Cyclades golygu

 
Lleoliad y Cyclades
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato