Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Audlem.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dwyrain Swydd Gaer.

Audlem
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDwyrain Swydd Gaer
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaer
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaBuerton, Hankelow, Newhall, Swydd Gaer, Dodcott cum Wilkesley, Adderley Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9892°N 2.5079°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04010899, E04002001 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ660436 Edit this on Wikidata
Cod postCW3 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,991.[2]

Mae Audlem yn agos i Afon Weaver. Mae Camlas Undeb Amwythig, cynllunio gan Thomas Telford, yn mynd trwy’r pentref. Mae 15 loc yn ymyl y pentref, yn codi’r gamlas 93 troedfedd mewn milltir a hanner.[3] Mae’r A525 yn pasio’r trwy’r pentref hefyd.[4]

Hanes golygu

Mae cyfeiriaid i ‘Aldelime’ yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[5] Sefydlwyd eglwys erbyn y 13eg ganrif hwyr. Roddwyd siarter i farchnad Audlem gan Edward I ym 1296. Adeiladwyd Neuadd Moss ym 1616 a’r hen ysgol ramadeg rhwng 1647 a 1655. Adeiladwyd y Capel Methodistiaidd ym 1863. Adeiladwyd Rheilffordd Nantwich a Market Drayton ym 1863, gyda gorsaf yn Audlem. Caewyd yr orsaf ym 1964.[6]

Cynhelir refferendwm ar wefan audlemonline yn 2008 er mwyn amlygu anfanteision o fyw yn Lloegr yn hytrach na’r wledydd eraill Prydain.[7][8]

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato